Cyfres Dosbarthiadau Meistr Yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth: Blaenoriaethau ar gyfer Adfer ar ôl COVID-19 yn Seiliedig ar Werth
Yn y dosbarth meistr hwn mae dau arbenigwr rhyngwladol yn ymuno â ni a fydd yn archwilio ymagweddau’n Seiliedig ar Werth at adferiad y system iechyd, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn.
Bydd Dr Sally Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Doeth ar Sail Gwerth - Gwerth yng Nghymru, yn trafod sut y gellir defnyddio ymagweddau ar sail Gwerth ym maes gofal iechyd pobl hŷn wrth i systemau iechyd adfer wedi COVID-19.
Byddwn hefyd yn clywed gan Gérard Klop, sy’n sylfaenydd ymgynghoriaeth yr Iseldiroedd, Vintura, ac yn gyd-awdur adroddiad 2021 ’Value-Based Healthcare: The answer to our health care challenges', a fydd yn archwilio'r broses o roi VBHC ar waith yn yr amgylchedd ar ôl y pandemig.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we'r digwyddiad.
Am ddim