Delwedd o firws

Cyhoeddi €1.75 biliwn o gyfleoedd cyllid Ewropeaidd

18 Mawrth

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o Raglen Waith Iechyd Horizon Ewrop ar gyfer 2021-2022, gyda €1.75 biliwn o gyfleoedd cyllid ar gael.

Mae'r rhaglen waith wedi'i rhannu'n 6 maes gwahanol o'r enw cyrchfannau. Mae pob cyrchfan yn cynnwys pynciau galw amrywiol:

  • Cyrchfan 1Cadw’n iach mewn cymdeithas sy'n newid yn gyflym (€289 miliwn)
  • Cyrchfan 2Byw a gweithio mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo iechyd (€350 miliwn)
  • Cyrchfan 3Mynd i'r afael â chlefydau a lleihau baich clefydau (€489.5 miliwn)
  • Cyrchfan 4Sicrhau mynediad at ofal iechyd arloesol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel (€240 miliwn)
  • Cyrchfan 5Datgloi potensial llawn offer, technolegau ac atebion digidol newydd ar gyfer cymdeithas iach (€270 miliwn)
  • Cyrchfan 6Cynnal diwydiant iechyd arloesol, cynaliadwy ac sy'n gystadleuol yn fyd-eang (€113 miliwn)

Rhagor o wybodaeth

Cynhelir gweminar ddydd Llun 22 Mawrth i ddarparu rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Waith Iechyd. I gofrestru ewch i dudalen we'r digwyddiad.

I gofrestru i dderbyn diweddariadau rheolaidd ar gyllid Iechyd Horizon Ewrop ewch i wefan Innovate UK.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chyllid Iechyd Horizon Ewrop, cysylltwch â: