Cyllid ymchwil iechyd byd-eang newydd NIHR yn agored i ymchwilwyr yng Nghymru

6 Mehefin

Bydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn lansio menter ariannu dros y flwyddyn nesaf i gefnogi ymchwil iechyd byd-eang, ochr yn ochr â ffocws byd-eang ar COVID-19. Bydd pob un o’r menter yn agored i ymgeiswyr o Gymru.

Ers ei dechrau yn 2016, mae rhaglen Ymchwil Iechyd Byd-eang NIHR wedi cefnogi ymchwil iechyd gymhwysol o ansawdd uchel er budd pobl mewn gwledydd incwm isel a chanol. Mae’r rhaglen yn cefnogi meysydd ymchwil iechyd gymhwysol a hyfforddiant sydd heb ddigon o gyllid neu lle dydy’r angen heb ei ddiwallu, a’i nod ydy lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae dyddiadau lansio a ffenestri’r alwad ar gyfer y rhaglen newydd wedi’u haddasu i gydbwyso’r ymateb i COVID-19, ochr yn ochr â pharhau i gyflenwi cyfleoedd ymchwil iechyd byd-eang.

Unedau Ymchwil Iechyd Byd-eang NIHR

Yn cau: 13:00 ar 18 Tachwedd 2020

Bydd y dyfarndaliadau hyn yn darparu cyllid i bartneriaeth neu rwydwaith ymchwil sefydledig mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil mewn gwledydd incwm isel a chanolig ac yn y DU sydd â phrofiad blaenorol o wneud gwaith ymchwil iechyd byd-eang a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Grwpiau Ymchwil Iechyd Byd-eang NIHR

Yn cau: 13:00 ar 18 Tachwedd 2020

Bydd y dyfarndaliadau hyn yn darparu cyllid i ymchwilwyr arbenigol sy’n cydweithredu o fewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil mewn gwledydd incwm isel a chanolig ac yn y DU sy’n awyddus i sefydlu rhaglenni ymchwil iechyd cymhwysol newydd.

Cynllun Peilot Dyfarndaliadau Cronfa Gweithdy Ymchwil Iechyd Byd-eang NIHR (2020)

Yn cau: 01 Rhagfyr 2020

Mae’r cynllun hwn yn rhoi’r cyfle i aelodau o Academi NIHR (PhD ac ôl-ddoethurol yn unig) sydd ar Raglenni Ymchwil Iechyd Byd-eang NIHR gynllunio ac arwain gweithdy.

Arian teithio a chynhaliaeth i gefnogi’r broses o ymgysylltu â LMIC yn ystod y pandemig COVID-19

Yn cau: 31 Rhagfyr 2020

Bydd y dyfarndaliadau hyn yn darparu arian teithio a chynhaliaeth i weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, clinigwyr ac academyddion addas a chymwys sy’n awyddus i gynnig cyngor gwyddonol a thechnegol er mwyn cynorthwyo’r broses o ymateb yn uniongyrchol i COVID-19 mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Ysgol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd NIHR

Yn cau: 28 Ionawr 2021

Atgyfnerthu Capasiti Ymchwil Sefydliadol o ran Clefydau Anrhosglwyddadwy (NCDs)

Dyddiad hysbysebu posibl: 31 Hydref 2020

Bydd y dyfarndaliadau hyn yn darparu cyllid sylweddol i gryfhau’r capasiti ymchwil mewn gwledydd incwm isel a chanolig a chyflawni a rheoli gwaith ymchwil o ansawdd uchel er mwyn rhoi sylw i’r baich cynyddol yn sgil clefydau anhrosglwyddadwy.

Ymchwil ac Arloesi er mwyn Trawsnewid Iechyd Byd-eang (RIGHT) NIHR Galwad 4

Dyddiad hysbysebu posibl: 01 Tachwedd 2020

Bydd y dyfarndaliadau hyn yn darparu cyllid er mwyn rhoi sylw i faich byd-eang yn sgil anafiadau, damweiniau, gofal brys ac mewn argyfwng mewn gwledydd incwm isel a chanolig drwy ddarparu ymchwil iechyd o ansawdd uchel a rhyngddisgyblaethol.

Systemau Iechyd Byd-eang a Pholisi Ymchwil – Galwad wedi’i harwain gan ymchwilwyr

Dyddiad hysbysebu posibl: 01 Mawrth 2021

Bydd y dyfarndaliadau hyn yn darparu cyllid i gonsortia ymchwil ddarparu ymchwil iechyd byd-eang i wella systemau iechyd cyflawn a gwasanaethau iechyd i bobl mewn LMIC drwy bartneriaethau teg.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae Rhaglen Ymchwil Iechyd Byd-eang NIHR yn agored i ymchwilwyr o ledled y DU. Mae’n darparu cyfleoedd cyffrous a sylweddol i ymchwilwyr Cymru sydd â diddordeb mewn materion iechyd byd-eang geisio cyllid ar gyfer eu gwaith, a chyfrannu at yr agenda ymchwil iechyd byd-eang.”

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch blog NIHR am eu cyfleoedd i ariannu ymchwil iechyd byd-eang.