Grŵp o chwech o bobl ifanc yn gwenu

Cymerwch ran yn arolwg Gofal Cymdeithasol Cymru ar bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion

24 Ebrill

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn lansio arolwg sydd ar agor rhwng 17 Ebrill ac 8 Mai i ddysgu mwy am bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sydd â phrofiad personol o bontio neu bobl sy'n cefnogi'r pontio mewn rhyw ffordd, naill ai drwy waith neu fel aelod o'r teulu neu ofalwr.

Mae’r arolwg yn rhan o ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil i’n helpu i ddeall pa rwystrau, problemau ac ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth drosglwyddo o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.

Bydd yr arolwg yn gofyn i bobl am eu barn ar gwestiynau ymchwil posibl ac i nodi heriau y maen nhw wedi'u profi neu bethau sydd wedi mynd yn dda fel rhan o'r broses bontio.