Hebddoch chi, allwn nu ddim canfod triniaethau newydd, effeithiol ar gyfer COVID-19

Cymru i chwarae rhan allweddol mewn astudiaeth gwrthfeiral i driniaethau newydd ar gyfer COFID-19 dros y DU gyfan

9 Rhagfyr

Gallai pobl yng Nghymru sydd dan risg cynyddol oddi wrth COFID19 gymryd rhan mewn astudiaeth dros y DU gyfan sydd yn archwilio’r modd y gall tabledi gwrthfeiral – a gymerir yn y cartref – helpu i leihau dwysedd y feirws, cyflymu adferiad ac osgoi’r angen am driniaethau mewn ysbyty.

Yr astudiaeth PANORAMIC (Treial llwyfan ymaddasol i wrthfeiralau ar gyfer trin COFID-19 yn gynnar o fewn y gymuned) yw’r treial clinigol cyntaf o’i fath. Arweinir y treial gan Brifysgol Rhydychen a gweithredir ef yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Mae’r astudiaeth yn agored i’r rhai sydd dros 50 oed, neu bobl rhwng 18- 49 sydd â chyflwr iechyd isorweddol a phrawf COFID-19 positif (PCR neu LFT) a symtomau ers llai na 5 diwrnod.

Y triniaeth cyntaf I gael ei ymchwilio drwy’r treial fydd molnupiravir (enw brand Lagevrio).  Mae’r triniaethau yn cynnwys Lagevrio. Mae’r driniaeth hon wedi ei chymeradwyo gan Asiantaeth Rheoleiddio Cynnyrch Meddygol a Gofal Iechyd (MHRA). Bydd yr astudiaeth hon yn darparu mwy o ddata ar y modd y mae’r gwrthfeiralau yn gweithio mewn poblogaeth sydd gan fwyaf wedi ei brechu, ac yn help i lunio penderfyniadau yn y dyfodol.  

Dyma eiriau’r Dr Andrew Carson-Stevens, Prif Archwilydd Cymru ar gyfer astudiaeth  PANORAMIC ac Arweinydd Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol: “Mae hyn yn gam mor bwysig ymlaen yn y modd yr ydym yn trin ac yn rheoli COFID-19, yn enwedig o ran y rhai mwyaf bregus, ac rwyf mor falch y bydd Cymru yn chwarae rhan mor flaenllaw yn y gwaith.

“Os ydych yn addas o dan feini prawf yr astudiaeth, cewch eich gosod ar hap mewn un o ddau grŵp, y cyntaf i dderbyn y gwrthfeiral a gofal sylfaenol a’r grŵp arall i dderbyn gofal sylfaenol yn unig. Os ydych yn y grŵp i dderbyn y triniaethau gwrth feiral newydd, byddwch yn derbyn eich meddyginiaeth drwy’r post. Gofynnir i bawb fydd yn cymryd rhan gwblhau dyddiadur symtomau yn ddyddiol ar-lein.”

Dywedodd yr Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar dïm treialon Rhydychen fel a ganlyn: “'Treial llwyfan yw PANORAMIC i’n galluogi ni i brofi ystod o driniaethau gwrth-feiral newydd ar gyfer  COFID-19 yn y gymuned – a’r driniaeth gyntaf yw Lagevrio.

“Yn allweddol i’r astudiaeth hon y mae cychwyn triniaeth cyn gynted ag sydd bosibl, felly mae’n hanfodol eich bod yn cael prawf COFID os nad ydych yn teimlo’n iawn, ac yn  cofrestru ar gyfer yr astudiaeth cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich canlyniadau. Mae cael triniaethau effeithlon ar gyfer pobl gyda COFID ysgafn neu ganolig yn hanfodol i ni allu lleihau efaith yr haint hwn ar ein teuluoedd a’n cymunedau.”

A dyma eiriau Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwraig Cyflenwi a Chymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd yn cydlynu’r gwaith recriwtio ar gyfer yr astudiaeth yng Nghymru: “Rydym wedi sefydlu’r astudiaeth fel y gall unrhyw un yng Nghymru, waeth ble maent yn byw, gymryd rhan os ydynt yn dewis. Os byddwch yn profi’n bositif byddwch yn derbyn neges destun yn eich arwain i wefan PANORAMIC ac rydym yn annog pawb i ymateb yn gyflym gan fod yn rhaid cychwyn y driniaeth o fewn 5 diwrnod i’r symtomau ddod i’r amlwg.

“Mae Cymru wedi parhau i fod yn ganolbwynt ymchwil byd enwog, yn cyfrannu o fewn y DU ac yn fydeang tuag at nifer fawr o astudiaethau i wahanol frechlynau, pigiadau atgyfnerthu a thriniaethau ac rwyf mor falch o’r tïm cyfan sydd yn rhan o gyflawni’r astudiaeth hon.” 

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rwy'n croesawu'r newyddion heddiw am yr astudiaeth newydd a chyfranogiad Cymru. Yn ogystal â'r treial, os ydych yn wynebu'r risg uchaf o COVID-19 difrifol ac yn eithriadol o agored i niwed, efallai y byddwch yn cael triniaeth gwrthgyrff monoclonol niwtral neu driniaeth gwrthfeirws fel rhan o'ch gofal safonol a bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi os byddwch yn profi'n bositif."

Os byddwch yn cael prawf COFID-19 positif, byddwch yn derbyn neges destun oddi wrth  Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyda linc i wefan yr astudiaeth (the PANORAMIC study website). Os byddwch yn cynnal prawf gartref a hwnnw’n bositif, yna gallwch gofrestru’n syth ar y wefan.

Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl oddi wrth yr astudiaeth yng Nghymru ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru