Ymchwilydd sy'n gweithio mewn labordy

Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu cytundeb cyllido ehangach SCYIaG i hybu ymchwil ar draws y DU

11 Gorffennaf

Bydd ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael mwy o fynediad at gyllid ymchwil drwy'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (SCYIaG) o'r hydref hwn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe, ei fod wrth ei fodd gydag ehangu'r cytundeb presennol a mynediad at ystod ehangach o raglenni ariannu SCYIaG, yn dilyn ymgynghoriad ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Prif Swyddfa Wyddonydd Llywodraeth yr Alban ac Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r cyhoeddiad yn ehangu'r rhestr o raglenni ymchwil SCYIaG sydd ar gael i ymchwilwyr yn y tair gwlad, ac yn cynyddu mynediad at ymchwil i bobl yn y gweinyddiaethau datganoledig hyn (GD).

Bydd y trefniadau cyllido newydd yn hwyluso mwy o ymchwil ar draws y DU, gan hefyd gynyddu cyfleoedd i ymchwilwyr yn y tair gwlad ddatganoledig gydweithio â diwydiant, gan gynnwys cwmnïau fferyllol a'r diwydiant technoleg feddygol. Mae'r newid mewn cymhwysedd cyllid yn cydnabod y ffaith bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol fel arfer yn cael ei gynnal ar draws pedair gwlad y DU ac yn fwy pwerus ac effeithlon o ganlyniad.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Rydym wrth ein bodd gydag ehangu ein cytundeb presennol a'r mynediad at ystod ehangach o raglenni cyllido SCYIaG a ddaw yn sgil hyn. Bydd y trefniadau partneriaeth newydd yn cynyddu cyfleoedd i ymchwilwyr yng Nghymru arwain a chymryd rhan mewn astudiaethau o arwyddocâd y DU, wrth gryfhau ymchwil iechyd a gofal yn y DU ar draws y pedair gwlad."

Ers 2008, mae'r SCYIaG - trwy'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol - wedi cael trefniant gyda'r GD yn seiliedig ar fuddsoddiadau gan bob cenedl sydd wedi caniatáu i westeion ymchwil (gan gynnwys prifysgolion a sefydliadau ymchwil gweithredol y GIG) yn y tair gwlad wneud cais am gyllid NIHR o bedair rhaglen ymchwil (Asesu Technoleg Iechyd (ATI), Ymchwil Cyflenwi Iechyd a Gofal Cymdeithasol (YCIaGC),  Ymchwil Iechyd y Cyhoedd (YIyC), a Gwerthuso Effeithiolrwydd a Mecanwaith (GEaM), a fyddai fel arall ond yn agored i westeion ymchwil LLoegr.

Bydd ymchwilwyr, ac mewn rhai achosion Mentrau Bach a Chanolig (MBaCh) yn gallu cyrchu pum rhaglen ymchwil NIHR arall o hydref 2023:

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Will Quince:

Rydym yn sicrhau bod y gwyddonwyr gorau ledled y DU yn cael eu cefnogi gyda'r adnoddau a'r cyllid ymchwil sydd eu hangen arnynt i barhau i wneud datblygiadau gwyddonol anhygoel sy'n achub bywydau ac yn galluogi'r GIG i ddarparu'r gofal gorau posibl.

Dywedodd yr Athro Danny McAuley, Cyfarwyddwr Gwyddonol ar gyfer Rhaglenni Ymchwil yn NIHR ac ym Mhrifysgol Queen's Belfast:

Mae'r diweddariad hwn i'n prosesau ariannu yn cydnabod y ffaith bod yr ymchwil orau yn digwydd ar draws ffiniau trwy gydweithio ac amrywiaeth."