Cymru i elwa o fuddsoddiad y DU sy’n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd drwy ymchwil llywodraeth leol
22 Rhagfyr
Cynghorau Bwrdeistref Sirol Torfaen a Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n elwa o fuddsoddiad ymchwil gwerth £55 miliwn sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd i bobl ledled y DU.
Mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, drwy'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yn buddsoddi ail don o gyllid mewn 11 Cydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd newydd dros y 5 mlynedd nesaf.
Mae'r partneriaethau llywodraeth leol arloesol hyn yn rhychwantu'r DU a byddant yn hybu gallu ymchwil a gallu mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig y DU.
Disgwylir i'r 11 Cydweithrediad newydd, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fynd yn 'fyw' ar 1 Ionawr 2024. Bydd 6 Cydweithrediad arall, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn dechrau ar 1 Ionawr 2025, ar yr amod y bodlonir meini prawf y cytunwyd arnynt yn ystod eu blwyddyn ddatblygu. Mae'r Cydweithrediadau newydd yn dilyn ôl troed 13 Cydweithrediad llwyddiannus sydd eisoes wedi'u sefydlu yn dilyn y don gyntaf o gyllid.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Trwy hybu partneriaethau rhwng llywodraeth leol a'r sector academaidd, bydd y Cydweithrediadau’n helpu i wreiddio ymchwil wrth wneud penderfyniadau llywodraeth leol, gan greu diwylliant o ddefnyddio tystiolaeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwneud gwelliannau i fywydau pobl.
"Mae'n wych gweld dau awdurdod yng Nghymru yn ennill arian i yrru ymlaen gweithgarwch o'r fath yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn eu taith ymchwil."
Adeiladu seilwaith llywodraeth leol
Bydd y buddsoddiad mawr hwn yn darparu seilwaith i alluogi awdurdodau lleol i ddod yn fwy gweithredol o ran ymchwil gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau'r GIG trwy wella iechyd y cyhoedd.
Mae enghreifftiau'n cynnwys hwyluso ymchwil i ddeall a chyflwyno ymyriadau’n well er mwyn helpu gyda marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, troseddau treisgar, materion sy'n wynebu plant a phobl ifanc, cyflogaeth a sgiliau, yn ogystal â mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac amddifadedd ehangach.
Am restr lawn o'r awdurdodau lleol o bob rhan o'r DU sy'n derbyn cyllid darllenwch yr eitem newyddion o’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yma.