Cymru i chwarae rhan bwysig mewn treial cenedlaethol ar gyfer brechlyn COVID-19

22 Mai

Bydd Cymru’n chwarae rôl hanfodol mewn darganfod ffordd allan o’r pandemig coronafeirws pan fydd y cyfnod nesaf o astudiaeth y mae’r DU yn ei harwain yn cael ei gyhoeddi heddiw (22ain Mai).

Wedi’i gydlynu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd cydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cymryd rhan yng nghyfnod nesaf y treial brechlyn y mae Prifysgol Rhydychen yn ei noddi ac y mae CEPI (Cynghrair Arloesi i fod yn Barod ar gyfer Epidemig) yn ei ariannu.

Iechyd Cyhoeddus Cymru fydd yn arwain y broses o recriwtio 500 o gyfranogwyr o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer treial brechlyn COVID-19 Grŵp Brechlyn Rhydychen.

Y nod yw darganfod brechlyn diogel a fydd yn datblygu imiwnedd yn erbyn y feirws ac felly yn atal y clefyd. Bwriad yr astudiaeth yw recriwtio 10,000 o gyfranogwyr i gyd.

Mae datblygu brechlyn COVID-19 yn rhan hanfodol o’r ymateb tymor hir i’r pandemig coronafeirws a bydd nifer o safleoedd eraill ledled y DU yn ymuno â Chymru fel rhan o gyfnod 2/3 yr astudiaeth.

Nid yw’r cyfnod hwn o’r treial ar agor i aelodau o’r cyhoedd.

Staff 18 oed a hŷn sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fydd y gwirfoddolwyr. Bydd hyn yn cynnwys gweithwyr mewn ysbytai, practisau meddygon teulu, fferyllfeydd, maes ffisiotherapi, gofal cymunedol a phroffesiynau anghlinigol eraill mewn gofal eilaidd y tybir eu bod mewn risg o fod yn agored i’r coronafeirws. Bydd cyfranogwyr cymwys yn derbyn manylion oddi wrth y bwrdd iechyd ynglŷn a sut i gymryd rhan os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

Meddai Dr Chris Williams, Pen Ymchwilydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinydd y treial brechlyn yng Nghymru: “Mae hon yn astudiaeth bwysig i roi effeithiolrwydd un o’r prif frechlynnau ymgeisiol ar brawf ar gyfer COVID-19 yng Nghymru. Os yn llwyddiannus, bydd brechu’n darparu ffordd allan o’r pandemig hwn. Byddwn ni’n recriwtio cyfranogwyr ar gyfer sgrinio a gweinyddu’r brechlyn, a monitro deilliannau a diogelwch.”

Meddai’r Athro Sue Bale, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Y farn ydy mai dod o hyd i frechlyn ar gyfer COVID-19 ydy’r unig ffordd y gallwn ni ddechrau dychwelyd i unrhyw fath o normalrwydd fel cymdeithas. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Rhydychen wedi datblygu brechlyn ac mae gan y Bwrdd Iechyd gyfle cyffrous i 500 o’n staff gymryd rhan yn y treial ffantastig yma.”

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cydlynu sefydlu ymchwil ac astudiaethau yn genedlaethol yng Nghymru: “Mae ymchwil yn hollol hanfodol i ddarganfod ffyrdd newydd o ddelio â COVID-19 a’i effaith ar iechyd a gofal, a brechlyn ydy’r nod yn y pen draw. Rydw i’n falch bod ymchwilwyr yng Nghymru’n gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i ddod o hyd i’r triniaethau mwyaf effeithiol, ac i dreialu brechlyn Rhydychen yma yng Nghymru. Mae ein cymuned ymchwil a’n staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud gwir wahaniaeth wrth geisio dod o hyd i ateb parhaus i’r pandemig COVID-19.

Meddai’r Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n gallu adeiladu ar ein cydweithio blaenorol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i’w cynorthwyo nhw i sefydlu’r treial brechlyn hollbwysig yma. Fel rheol, byddai astudiaeth fel hon yn cymryd misoedd i’w sefydlu, ond gyda thîm mor ymroddedig a medrus yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol maen nhw wedi cyflawni camp aruthrol. Mae hwn yn gam enfawr i ymchwil, hyd yn oed os yw’n ymddangos fel cam bach yn ein hymateb cenedlaethol i COVID-19.”


Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dudalen we am ymchwil COVID-19 yng Nghymru sy’n manylu ar yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sydd ar waith, neu ar y gweill, yng Nghymru.

Darllenwch ddatganiad Prifysgol Rhydychen i’r wasg i gael rhagor o wybodaeth am dreial y brechlyn.