Cymru yn ymuno â rhaglen sgrinio cyffuriau newydd gwerth £8M ledled y DU ar gyfer clefyd niwronau motor
23 Mehefin
Mae Cymru yn un o 11 o ganolfannau clefyd niwronau motor (MND) ar draws y DU sy'n cymryd rhan mewn rhaglen meddygaeth arbrofol arloesol newydd a gynlluniwyd i sgrinio cyffuriau posibl yn gyflym mewn pobl â'r cyflwr dinistriol hwn.
Bydd y rhaglen newydd EXPERTS-ALS (Llwybr i Lwyddiant meddygaeth Arbrofol mewn ALS) yn galluogi ymchwilwyr i sgrinio cyffuriau posibl yn gyflymach mewn pobl â chlefyd niwronau motor. Bydd cangen Cymru o'r astudiaeth hon yn cael ei harwain gan Dr Tom Massey, Arweinydd Arbenigedd ar gyfer Anhwylderau Niwrolegol a Niwro-ddirywiad, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Niwrolegydd Academaidd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Dr Massey:
Rwyf wrth fy modd y bydd pobl sy’n byw gydag MND yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen gyffrous hon sydd wedi’i chynllunio’n benodol i gyflymu’r broses o ddarganfod cyffuriau. Drwy gydweithio ar draws canolfannau MND o amgylch y DU, mae gan yr astudiaeth hon y potensial i sgrinio cyffuriau ymgeisiol ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen ac i ysgogi datblygiad therapiwtig arloesol mewn clefyd lle mae dirfawr angen.”
Mae MND, a elwir hefyd yn ALS, yn glefyd niwro-ddirywiol sy'n effeithio ar y celloedd nerfol yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn. Mae’n effeithio ar tua 1 o bob 300 ac yng Nghymru mae mwy na 200 o bobl yn byw gydag MND ar unrhyw un adeg. Mae pobl yn gynyddol yn colli symudiad gwirfoddol ac angen gofal cymhleth. Bydd tua hanner y rhai sy'n cael diagnosis MND yn marw o fewn dwy flynedd ac felly mae angen brys am driniaethau newydd.
Mae hon yn rhaglen flaenllaw gan Sefydliad Ymchwil MND newydd y DU (UK MND RI). Arweinir EXPERTS-ALS gan yr Athro Martin Turner ym Mhrifysgol Rhydychen, a chyd-gyfarwyddwr MND RI y DU, yr Athro Chris McDermott ym Mhrifysgol Sheffield. Mae'n cynnwys 11 canolfan MND o amgylch y DU ac yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Addysgu Sheffield.
Bydd y rhaglen yn sgrinio cyffuriau ymgeisiol yn gyflym ac yn nodi'r rhai y dylid eu profi mewn treialon clinigol mwy. Mae ymchwilwyr yn gobeithio y gall cleifion cymwys ddechrau cymryd rhan yn yr astudiaeth yn haf 2024. Bydd y rhaglen hefyd yn helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr MND.
Dywedodd yr Athro Christopher McDermott, cyd-arweinydd EXPERTS-ALS, cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil MND newydd y DU, Athro Niwroleg Drosiadol ym Mhrifysgol Sheffield a Niwrolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Addysgu Sheffield:
Mae MND yn glefyd creulon a dinistriol ac mae angen dulliau newydd arnom i nodi triniaethau mwy effeithiol i helpu cleifion.Mae EXPERTS-ALS yn brosiect arloesol i flaenoriaethu’r cyffuriau sydd â’r siawns orau o lwyddo i atal dilyniant y clefyd dirywiol ofnadwy hwn. Dros bum mlynedd, byddwn yn gallu sgrinio cyffuriau yn gyflymach, ar raddfa fwy a nodi pa rai ddylai symud ymlaen i dreialon cam 3 yn seiliedig ar signalau a geir mewn pobl sy'n byw gydag MND."
Mae'n rhaid profi cyffuriau posibl ar gyfer MND mewn treialon clinigol cam 3 ac mae hyn o reidrwydd yn cynnwys grŵp plasebo i ddangos a ydynt o fudd annibynnol i gleifion. Mae eu cyfradd llwyddiant wedi bod yn isel iawn hyd yn hyn. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y cyffuriau a gyflwynir i'w profi yn aml wedi'u dewis yn bennaf ar ddata o astudiaethau labordy, yn hytrach na chan bobl sy'n byw ag MND. Bydd y rhaglen EXPERTS-ALS yn sgrinio cyffuriau mewn cleifion, gan chwilio am arwyddion cynnar o fudd a geir mewn profion gwaed fel lefelau is o brotein o'r enw niwroffilament ysgafn (NFL) a all ddangos pa mor ddatblygedig yw'r cyflwr. Gellir dod i benderfyniad ‘iawn’ neu ‘ddim yn barod’ o fewn ychydig fisoedd a rhoi blaenoriaeth i gyffuriau llwyddiannus i’w profi yn y treialon cam 3 mwy, gan gynnwys y platfform MND-SMART arloesol, gyda siawns uwch o ganlyniad cadarnhaol.
Mae’r DHSC drwy’r NIHR wedi dyfarnu £8 miliwn i’r prosiect, a fydd yn ariannu’r prosiect am 3.5 mlynedd (yn amodol ar lofnodi contract). Mae elusennau cleifion Cymdeithas MND, Sefydliad My Name’5 Doddie, MND yr Alban, a’r elusen ymchwil feddygol LifeArc yn bwriadu darparu cymorth ychwanegol i ymestyn yr astudiaeth i 5 mlynedd a chefnogi ymchwil labordy ychwanegol.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.