Oxford vaccine study team

Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth ddod o hyd i frechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol

30 Rhagfyr

Mae brechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca wedi ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn dilyn treial byd-eang y bu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chyfranogwyr o Gymru ran allweddol ynddo.

Bu cydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a'r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yng ngham 2/3 y treial brechlyn a noddwyd gan Brifysgol Rhydychen ac a ariannwyd gan CEPI (Coalition for Epidemic Preparedness Innovations) ac UK Research and Innovation.

Recriwtiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bron i 450 o gyfranogwyr i dreial brechlyn COVID-19 Grŵp Brechlyn Rhydychen. Gwahoddwyd gwirfoddolwyr 18 oed a hŷn i gymryd rhan yn y treial. Roedd llawer o'r cyfranogwyr o leoliadau iechyd a gofal, gan gynnwys staff mewn ysbytai, practisau meddygon teulu, proffesiynau fferyllol, ffisiotherapi, gofal cymunedol a phroffesiynau anghlinigol eraill mewn gofal eilaidd yr ystyriwyd eu bod mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Dywedodd Dr Chris Williams, Prif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinydd y treial brechlyn yng Nghymru: "Rwy'n falch iawn bod y brechlyn hwn bellach yn rhan gymeradwy o'r ymateb i atal haint COVID-19. Rydym ni wedi bod yn monitro’r tonnau o heintiau a’r effaith unigol ofnadwy y gall hyn ei chael. Bydd y brechlyn hwn yn gallu atal derbyniadau i ysbytai a marwolaethau, drwy flaenoriaethu'r rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai hynny sy'n gweithio i ofalu amdanynt.

"Mae gweithio gyda Grŵp Brechlyn Rhydychen ar yr astudiaeth hon wedi bod yn anrhydedd mawr iawn, fel y bu gweithio gyda'r timau rhagorol yng Nghymru wrth iddynt gyflawni'r astudiaeth mewn amgylchiadau heriol. Hoffwn ddiolch hefyd i gyfranogwyr y treial am eu hymrwymiad i'r astudiaeth."

Dywedodd Jeanette Wells, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Dyma'r newyddion gorau y gallem ni fod wedi eu cael ar ddiwedd blwyddyn gythryblus iawn.  Mae tîm ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ei syfrdanu gan yr holl gymorth a gafwyd gan gynifer o bobl. Heb ein cydweithwyr lleol, hen a newydd, ac wrth gwrs y cyfranogwyr gwirfoddol ni fyddai ein cyfraniad i'r astudiaeth hon wedi bod yn bosibl.

"Rydym yn arbennig o falch o fod wedi gallu cyfrannu at yr ymdrech genedlaethol yn y modd hwn, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld y brechlyn hwn yn cael ei ddefnyddio. Gobeithio nawr y gallwn ni edrych ymlaen at Flwyddyn Newydd well, hapusach, iachach a mwy llewyrchus."

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflawni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd ar sail cenedlaethol yn cydgysylltu ymchwil a sefydlu astudiaethau yng Nghymru: "Mae ein cymuned ymchwil yn gweithio'n galed i ddarparu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ymladd y pandemig hwn ac mae cymeradwyo brechlyn Rhydychen/AstraZeneca yn gam pwysig ymlaen.

"Mae gennym ddau frechlyn arall yn cael eu profi yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae mwy o dreialon i'w sefydlu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Bydd yr ymchwil hwn, ynghyd â'r astudiaethau COVID-19 eraill sy'n cael eu cynnal, yn ein helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed a hefyd i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r rhai sy'n mynd yn sâl.

"Rwy'n falch o'r swyddogaeth a gyflawnwyd gan ein hymchwilwyr yng Nghymru yn yr ymdrech hon a gynhaliwyd ledled y DU a hoffwn ddiolch hefyd i'r cyfranogwyr sydd wedi gwirfoddoli. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol."

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rwyf mor falch bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gallu cefnogi datblygiad y brechlyn hwn. Mae gwybod bod ein sefydliad wedi gallu chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu'r adnodd gwerthfawr hwn i ddiogelu cymunedau yng Nghymru a thu hwnt, yn anrhydedd aruthrol ac rwy’n talu teyrnged i'm cydweithwyr sydd wedi gweithio mor galed i weithredu’r gwaith hanfodol hwn mor gyflym. Mae eu hymroddiad a'u gwaith caled yn wirioneddol ysbrydoledig ac rwy'n diolch i bob un ohonynt."

Dywedodd yr Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae cymeradwyo'r brechlyn hwn yn cynrychioli'r gwaith enfawr a wnaed gan nifer o bobl ac mae'n rhoi gobaith i lawer drwy i ni allu brechu cymaint o bobl â phosibl wrth i ni symud ymlaen yn 2021."

Sut brofiad yw gwirfoddoli ar gyfer un o dreialon brechlyn COVID-19 Cymru?

Bu’r byd yn gwylio’n eiddgar ymchwilwyr a gwyddonwyr yn eu hymgais i ganfod brechlyn ar gyfer COVID-19.

Er bod brechlynnau Pfizer/BioNTech a Rhydychen/Astrazeneca wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU, mae treialon eraill yn parhau. Bydd angen llawer o frechlynnau cymeradwy i ddiwallu’r galw byd-eang am amddiffyniad rhag y feirws, ac mae cannoedd o filoedd o wirfoddolwyr wedi cofrestru i wneud eu rhan yn y chwilio hwnnw yn y DU.

Ym mis Mai, sefydlodd astudiaeth brechlyn Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca (y rhaglen dreialu brechlyn gyntaf yn y DU) ei safle ar gyfer Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gyda chymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Ganolfan Treialon Ymchwil ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd yr ymchwilwyr eisoes wedi cynnal treialon diogelwch llai o’r brechlyn cyn cael cymeradwyaeth i gynnal treialon gyda’r boblogaeth ehangach. Roedd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn un o 18 safle yn y DU a ddewiswyd i gynnal yr astudiaeth.

Recriwtiodd yr astudiaeth bobl o’r ardal leol, gweithwyr gofal iechyd yn bennaf a oedd, drwy eu swyddi, yn debygol o fod yn agored i achosion cadarnhaol o COVID-19.

Brian Begg, Ymarferydd Ymarfer Corff adsefydlu cardiaidd 39 oed sy’n gweithio yn Ysbyty Ystrad Fawr yng  Nghaerffili, yw un o’r cannoedd o bobl a gofrestrodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth.

Cafodd Brian, sy’n byw yng Nghasnewydd gyda’i gymar Ellie a thri o blant, y gwahoddiad cyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen dreialu ym mis Mai. Buom yn ei holi ynglŷn â’i brofiad o gymryd rhan mewn rhaglen dreialu brechlyn fyd-eang.

C: Sut daethoch chi i gymryd rhan yn rhaglen dreialu brechlyn Prifysgol Rhydychen/Astrazeneca?

A: Rwy’n gweithio ym maes adsefydlu cardiaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan â’r elfen ymarfer corff yn ein rhaglen adsefydlu i gleifion cardiaidd.

Felly, pan ddaeth yr e-bost gan yr adran ymchwil a datblygu yn chwilio am recriwtiaid, teimlais y dylwn i’n sicr gymryd rhan. Mae gen i ddiddordeb mewn ymchwil ac ar hyn o bryd rwyf wedi cofrestru ar gwrs doethuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, felly roeddwn i’n awyddus i wybod mwy am hyn. Rwyf wedi bod yn brif ymchwilydd ar un neu ddau o dreialon cardiaidd, felly roedd gen i ddiddordeb gweld sut byddai rhaglen dreialu fawr fel hon yn cael ei chynnal. Mae’r wyddoniaeth a’r ymchwil sy’n sail i’r astudiaeth yn gryf, ac roedd yn ymddangos bod ganddynt weithdrefnau cadarn felly fe wnes i gofrestru. Ynghyd ag 20,000 o bobl eraill mae’n ymddangos!

C: Sut oeddech chi’n teimlo yn mynd i’ch apwyntiad cyntaf yn y clinig?

A: Roedd gen i syniad da o beth i’w ddisgwyl ar yr ymweliad cyntaf hwnnw. Pan es i’r ganolfan ymchwil am y tro cyntaf, cefais fy nghyfarch ac eglurwyd y rhaglen dreialu wrthyf. Cefais ateb i fy holl gwestiynau, ac roedd yn teimlo fel amgylchedd diogel iawn i fod ynddo. Nid oeddwn i’n teimlo’n arbennig o nerfus am gael y brechlyn. Roeddwn i’n teimlo’n chwilfrydig ac yn obeithiol, debyg, y byddai fy nghyfraniad bach yn gwneud gwahaniaeth.

C: Beth oedd barn eich teulu a’ch ffrindiau amdanoch chi’n cymryd rhan mewn rhaglen dreialu fel hon?

A: Rwy’n credu eu bod nhw ychydig yn fwy nerfus na fi! Mae llawer iawn o gamsyniadau ynglŷn â’r brechlyn hwn. Roedd aelodau’r teulu’n gofyn "a all roi COVID i chi? Fyddwch chi’n dal yr haint?" Nid dyna’r math o frechlyn yw hwn. Rwy’n ifanc, yn iach a does gen i ddim problemau iechyd sylfaenol, felly mae fy risg gymharol yn isel. Trwy gymryd rhan, roeddwn i’n teimlo y gallwn i helpu i esbonio’r ffeithiau i fy nheulu, yn hytrach na chamsyniadau a chamdybiaethau - doeddwn i ddim yn mynd i dyfu pen ychwanegol! Mae manteision cymryd rhan yn llawer mwy na’r risgiau i mi. Roedd yn benderfyniad hawdd mewn gwirionedd, ac roedd fy mhartner Ellie yn gefnogol i’r carn hefyd.

C: Pa fanteision eraill welsoch chi o gymryd rhan?

A: Gan fy mod i’n ymwneud ag ymchwil wrth fy ngwaith, roeddwn i eisiau gwylio a dysgu o sut roedd y staff yn cynnal y rhaglen dreialu, hyd yn oed fel rhywun a oedd yn cymryd rhan! Hefyd, rwyf i wedi cael profion wythnosol ar gyfer COVID yn rhan o’r astudiaeth. Felly, rwy’n gwybod am y 29 wythnos diwethaf nad wyf i wedi cael COVID. Bob bore Iau rwyf i wedi bod yn rhoi’r swab i fyny fy nhrwyn ac i gefn fy ngwddf a’i anfon i ffwrdd, felly roedd yn ddiddorol yn hynny o beth hefyd.

C: Beth yw’r camau nesaf i chi fel rhywun sy’n cymryd rhan, beth sydd gennych chi ar y gorwel yn ystod y misoedd nesaf?

A: Ar hyn o bryd, mae gen i chwe phrawf wythnosol arall i’w gwneud, a dilyniant ddiwedd mis Mawrth a bydd hynny ryw 12 mis ers i mi ddechrau. Yna, efallai mai dyna’r diwedd. Rwy’n hapus i fynd cyn belled ag y mae fy angen i arnyn nhw.

C: Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n dal i feddwl am gymryd rhan mewn rhaglen dreialu fel hon, er gwaethaf dyfodiad y brechlyn cymeradwy?

A: Nid yw datblygu brechlynnau wedi gorffen – mae ymchwil yn broses barhaus, ac mae gwelliannau ac addasiadau’n digwydd drwy’r amser. Mae’n benderfyniad personol, ond rwyf i’n credu y dylai pobl gymryd rhan mewn treialon, os ydyn nhw’n hapus i wneud hynny a’u bod yn ymwybodol o’r broses. Er y gwnes i ddysgu mwy am frechlynnau a gweithdrefnau treialon, nid yw cymryd rhan mewn ymchwil yn ymwneud â’r manteision personol. Mae’n ymwneud â gwneud eich rhan dros gymdeithas i ateb cwestiynau a allai fod o fudd i eraill yn y pen draw.

C: Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth bobl sy’n amau diogelwch neu effeithiolrwydd brechlyn COVID?

A: Mae’r risgiau sydd ynghlwm â brechlyn Rhydychen yn fach iawn gan nad technoleg newydd oedd yn cael ei phrofi. Bu 10 i 15 mlynedd o ymchwil yn sail i gynhyrchu’r brechlyn hwn am y tro cyntaf fis Ionawr/Chwefror diwethaf. Mae rhai pobl yn dweud "mae treialon brechlynnau fel arfer yn cymryd blynyddoedd" a "does dim posib y gall fod yn frechlyn addas oherwydd ei fod wedi’i ruthro i’w gynhyrchu mewn blwyddyn", ond mae technoleg brechu, mewn gwirionedd, wedi bod yn datblygu ers blynyddoedd ar flynyddoedd a gellir ei defnyddio nawr i ymdopi â’r feirws hwn. Fel gyda brechlyn y ffliw, mae gan bobl ddewis bob amser a gallan nhw bwyso a mesur eu risgiau personol eu hunain, a bydd brechlyn COVID yr un fath. Gorau oll y mwyaf o bobl sy’n cael eu brechu, ond gall pobl ddewis beth i’w wneud â’u cyrff eu hunain. Gobeithio y bydd pobl yn tyrru i’w gael.

C: Beth oedd eich prif gymhelliant dros gymryd rhan yn y rhaglen dreialu?

A: Mae’n un rhyfedd – dyma’r tro cyntaf yn fy mywyd nad ydw i wedi teimlo mewn rheolaeth dros unrhyw beth. O ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, rwyf i bob amser yn cynllunio ac yn gwybod beth rwy’n ei wneud, a gallwch chi newid pethau ac effeithio ar bethau, ond gyda COVID, dyma’r tro cyntaf i mi pan oedd popeth yn ansicr. Felly, fe wnes i feddwl gyda rhaglen dreialu’r brechlyn, y gallaf i gyfrannu rhywfaint. Mae’r gwyddonwyr a’r bobl glyfar sy’n creu’r brechlynnau hyn wedi gwneud yr holl waith caled, felly i mi roedd yn ymwneud â chwarae rhan fach iawn yn y gadwyn honno o gwblhau proses gynhyrchu’r brechlyn, er mwyn dychwelyd i gyflwr o normalrwydd gobeithio. Hefyd, rwyf i eisiau cyfrannu at amddiffyn fy nheulu, pobl â chyflyrau cronig a’r henoed.

C: Sut flwyddyn ydych chi’n gobeithio bydd 2021, yn dilyn gwaith caled pobl fel chi a’ch cydweithwyr fu’n cymryd rhan mewn treialon brechu eleni?

A: Rwy’n gobeithio y bydd pethau’n dechrau dychwelyd i ryw raddau o normalrwydd. Fel pobl, rydym ni’n ffynnu ar ryngweithio, cwrdd â phobl, ymarfer corff, bod yn gymdeithasol. Rwy’n poeni y bu effaith enfawr ar iechyd meddwl. Hefyd, yn fy ngwaith ym maes adferiad cardiaidd, clefyd y galon yw un o’r lladdwyr mwyaf yn y DU o hyd. Bydd yn wych gallu rhoi’r sylw sydd ei angen eto ar gyflyrau cronig ar wahân i COVID.

Wrth gerdded hwnt ac yma, rwy’n gwylio iaith corff pobl wrth iddyn nhw ryngweithio. Er bod cyfeillgarwch yno o hyd, mae yna elfen o bwyllo, cadw pellter ac osgoi cyswllt agos. Felly bydd yn braf dychwelyd i adeg pan nad oes angen i ni feddwl am hynny mwyach, pan allwn ni gyfarch pobl a rhoi cwtsh iddyn nhw, a gwneud yr holl bethau rydym ni i fod i’w gwneud fel bodau dynol.

Mae gan dudalen we Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ymchwil COVID-19 yng Nghymru, fanylion yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sy’n weithredol, neu sydd wedi’u sefydlu, yng Nghymru.

I wybod mwy, cysylltwch â thîm cyfathrebu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: healthandcareresearch@wales.nhs.uk