Braich y claf yn ystod llawdriniaeth

Cymru’n arwain y ffordd o ran rhoi organau

Yn 2015, daeth Cymru’n wlad gyntaf y DU i newid o system lle mae pobl yn optio i mewn i roi organau, i system optio allan lle tybir bod pawb yng Nghymru’n cefnogi rhoi organau os nad ydyn nhw’n dweud nad ydyn nhw am fod yn rhoddwr. Nod y newid arloesol hwn oedd cynyddu cyfraddau cydsynio a graddfa a chyflymder rhoi organau a thrawsblannu – y driniaeth orau ar gyfer organau sy’n methu. 

Diolch i ymchwil a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r GIG yng Nghymru wedi gallu cael cipolwg gwerthfawr ar effaith y system optio allan ar y teuluoedd dan sylw. Mae’r gwaith hwnnw, yn ymchwilio i agweddau, gweithredoedd, penderfyniadau a phrofiadau teuluoedd y rhoddwr o’r system newydd, yn darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu dull Cymru o drin rhoi organau ymhellach er budd pawb.

Y rhodd o fywyd

Bob blwyddyn yn y DU, mae mwy na 3000 o bobl wedi cael y siawns i fyw bywydau hirach a llawnach oherwydd bod pobl wedi rhoi organau, ond yn draddodiadol mae’r system wedi dibynnu ar unigolion yn cofrestru’u cydsyniad i hynny ddigwydd. Fodd bynnag, ers cyflwyno Gorchymyn Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2015, tybir bod pawb sy’n byw ac yn marw yng Nghymru’n cefnogi rhoi organau os nad ydyn nhw wedi optio allan yn ystod eu hoes. ‘System feddal o optio allan’ ydy’r enw ar hyn.

Os yw rhywun yng Nghymru’n penderfynu peidio â mynegi ei benderfyniad, yna gellir tybio’i fod yn cydsynio. Cydsynio tybiedig ydy’r enw ar hyn. Ond er bod bwriad yn ôl y gyfraith i sicrhau bod organau’n cael eu rhoi fel mater o drefn, mae hefyd yn sicrhau bod cydsyniad aelodau’r teulu neu briod i roi organau yn cael ei geisio’n foesol ac yn briodol – a dyma lle mae rhoddwyr organau posibl yn cael eu colli. 

Yn ôl Dr Leah McLaughlin, swyddog ymchwil yng nghangen Prifysgol Bangor o Uned Ymchwil Arennol Cymru: “Roedden ni eisiau deall mwy am beth sydd ei angen i achosi newid mewn ymddygiad i sicrhau bod organau’n cael eu rhoi fel mater o drefn yng Nghymru. Beth ydy’r trobwyntiau allweddol sy’n arwain at benderfynu ynglŷn â rhoi organau yn ystod y trafodaethau ar yr adegau anodd hyn?” 

Cyfraddau cydsynio

Bu’r Pen Ymchwilydd, yr Athro Jane Noyes, a’r tîm ymchwil yn gweithio gyda nyrsys arbenigol ar gyfer rhoi organau yng ngwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG ac aelodau’r cyhoedd i gynllunio a chyflawni astudiaeth yn edrych ar gyfraddau cydsynio, ac yn archwilio barn teuluoedd ar y broses. Roedd y canlyniadau’n galonogol, gyda’r ‘system feddal o optio allan’ newydd yn dangos gwelliannau positif yng nghyfraddau cydsynio i roi organau, er nad oedd hyn yn ystadegol arwyddocaol. 

O’r 205 achos a adolygwyd o bobl a allai o bosibl roi organau, roedd 46 heb gofrestru naill ai ar lafar neu ar gofrestr swyddogol Rhoddwyr Organau’r GIG, gan olygu y gellid tybio’u bod nhw’n cydsynio dan y system newydd. Doedd teuluoedd 18 o’r rhoddwyr posibl hyn ddim yn hapus i gefnogi rhoi organau gan arwain at 28 o roddwyr y gellid tybio’u bod nhw’n cydsynio. Ar y cyfan, doedd 15% o deuluoedd ddim yn cefnogi penderfyniad eu perthynas i roi ei organau. 

Rôl y teulu 

“Dan y Ddeddf newydd, mae rôl y teulu wedi newid a gofynnir i aelodau’r teulu roi eu barn nhw eu hunain o’r neilltu a chefnogi penderfyniad eu perthynas i roi ei organau. Ac mewn sefyllfa lle tybir cydsyniad, ystyrir ‘gwneud dim’ yn benderfyniad positif o blaid rhoi organau,” meddai’r Athro Noyes. 

“Fe welson ni nad oedd aelodau’r teulu’n derbyn neu’n deall nad nhw oedd yn gwneud y penderfyniad mwyach ac roedd consensws nad oedd ‘gwneud dim’ (cydsynio tybiedig) eto’n cael ei ystyried yn benderfyniad clir i fod yn rhoddwr organau. Byddai’n well gan deuluoedd fod wedi cael gwybod beth oedd penderfyniad eu perthynas mewn sgwrs uniongyrchol neu o wybod ei fod wedi cofrestru i ‘optio i mewn’ ar y gofrestr rhoi organau.”

Ymhlith rhai o’r rhesymau eraill pam nad oedd aelodau’r teulu wedi cefnogi’r penderfyniad i roi organau oedd anghytundebau ymysg y teulu, hyd neu ffrâm yr amser i roi organau, diffyg nyrsys arbenigol, a’u barn negyddol eu hunain ar roi organau. 

Roedd teuluoedd y perthynas y tybiwyd ei fod yn cydsynio, pan roedd y teulu’n cefnogi cydsynio tybiedig, yn teimlo bod y newidiadau yng Nghymru wedi’u helpu nhw i wneud y peth iawn dros eu hanwyliaid. Dywedodd rhai ohonyn nhw eu bod nhw wedi gallu rhoi eu barn nhw’u hunain o’r neilltu a chefnogi penderfyniad eu perthynas i roi ei organau oherwydd y system optio allan newydd. 

Y ffordd ymlaen 

Roedd yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth wreiddiol, cyn i’r system optio allan gael ei chyflwyno, yn canolbwyntio ar annog unigolion i ddewis ynglŷn â rhoi organau ond nid oedd yn egluro rôl y teulu. Dangosodd ymchwil tîm Bangor yn glir bod angen mwy o wybodaeth ar aelodau’r teulu a mwy o addysg am eu rôl newydd nhw wrth benderfynu. 

Cafodd y darganfyddiadau hynny effaith ar unwaith, gyda Llywodraeth Cymru’n lansio ymgyrch newydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd rhannu’ch penderfyniad â’ch teulu ynglŷn â rhoi organau, ac ar gyfrifoldeb y teulu i barchu penderfyniad eu perthynas ynglŷn â rhoi organau. 

Gwnaeth y tîm ymchwil hefyd argymhellion i ateb rhai o’r materion eraill roedd y teuluoedd wedi’u codi, gan gynnwys: cael gwell cyfleusterau mewn ysbytai yng Nghymru ar gyfer teuluoedd y rhoddwyr organau i’w gwneud hi’n haws iddyn nhw aros gyda’u perthynas, a chynyddu’r gwasanaethau cymorth profedigaeth i bob teulu oedd yn cael eu holi ynglŷn â rhoi organau. Mae nyrsys arbenigol eisoes wedi datblygu gwasanaeth ‘cyfeillio’ newydd i ateb yr olaf o’r rhain. 

Arwain y ffordd

Yn dilyn llwyddiant yr astudiaeth, mae’r tîm wedi bod yn rhannu ei ganlyniadau â chydweithwyr ym maes rhoi organau ledled y byd. Bu’n gwneud cyflwyniad yn Awstralia’n ddiweddar, lle maen nhw yng nghanol y broses o ystyried cyflwyno system optio allan, ac mae disgwyl i’w ddarganfyddiadau gael effaith ar ddatblygiadau yn Lloegr a’r Alban wrth i’r ddwy wlad gynllunio i newid i system o gydsynio tybiedig. 

“Bydd deall pam nad ydy pobl yn cofrestru ar y gofrestr rhoi organau, neu pam fod aelodau’r teulu’n dal i deimlo nad ydyn nhw’n gallu cefnogi penderfyniad y person fu farw, yn cael effaith ar sut i gynllunio ymyriadau yn y dyfodol i wella cyfraddau rhoi organau a meinweoedd yng Nghymru a’r DU,” meddai’r Athro Noyes.


Cyhoeddwyd gyntaf: Gorffennaf 2018