chwistrellu brechlyn menyw

Cymru’n chwarae rhan annatod ym mrechlyn Covid-19 cyntaf y DU sy’n targedu dau amrywiolyn

24 Awst

Yr wythnos diwethaf, cymeradwywyd brechlyn COVID-19 newydd sbon sy’n targedu dau amrywiolyn o’r coronafeirws (a elwir yn frechlyn “deufalent”).

Cyflawnwyd yr astudiaeth fyd-eang, dan arweiniad y cwmni biotechnoleg Moderna, yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cynhaliwyd yr astudiaeth, a oedd â safleoedd amrywiol ledled y DU, gan y Ganolfan Ymchwil Glinigol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant a recriwtiodd tua 50 o gyfranogion ledled de a gorllewin Cymru.

Cymeradwywyd y brechlyn ar ôl i ddata o'r astudiaeth ddangos bod dos atgyfnerthu o frechlyn deufalent Moderna yn ysgogi ymateb imiwnedd cryf yn erbyn Omicron (BA.1) a’r amrywiolyn gwreiddiol o 2020.

Dywedodd Dr Lucy Jones, Prif Ymchwilydd ar gyfer y treial yng Nghymru:

Rydym mor falch o fod wedi cynnal yr astudiaeth hon yma yng Nghrymu, mae’n wych gweld cyfraniad Cymru yn cael ei gydnabod ar lwyfan byd-eang.

Wrth i ni symud i’r gaeaf rydym yn gobeithio y bydd y brechlyn hwn, fel cymaint o rai eraill, yn amddiffyn pobl ledled y byd rhag y coronafeirws, nid pobl Cymru yn unig.”

Dywedodd yr Athro John Geen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Rwyf mor falch o dîm Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’r tîm wedi gweithio mor galed i gyflawni’r astudiaeth hon, wedi’i hwyluso gan ddatblygiad diweddar ein Canolfan Ymchwil Glinigol.

Mae cymeradwyaeth y brechlyn yn rhoi cymaint o foddhad i’r holl dîm, o wybod eu bod nhw a’n poblogaeth yn ganolog i ymchwil mor arloesol ac o safon mor uchel.”

Dywedodd Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflawni Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Fel arfer, mae’r gaeaf yn rhoi llawer o bwysau ar y GIG a bydd buddsoddi mewn ymchwil a pharatoi nawr yn helpu i amddiffyn cynifer o bobl â phosibl.

Mae miloedd o bobl ledled Cymru wedi ymrwymo amser i gymryd rhan mewn treialon clinigol ar gyfer brechlynnau Covid-19 ac rydym mor ddiolchgar i bob un ohonyn nhw. Heb gymorth a pharodrwydd pobl Cymru ni allem ni fod wedi cyflawni gymaint.

Dyma gyflawniad gwych arall i ni ac yn arbennig i’r tîm ymchwil a chyflawni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.”