Cymru’n chwarae rhan allweddol mewn ymchwil frys i COVID-19

1 Mai

Mae Cymru’n chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech ledled y DU i ddod o hyd i driniaethau ar gyfer cleifion COVID-19 trwy ymchwil, gydag 11 o astudiaethau ymchwil iechyd cyhoeddus brys yn mynd rhagddyn nhw ac astudiaethau eraill wrthi’n cael eu sefydlu.

Mae’r astudiaethau hyn – sy’n cael eu sefydlu trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’u cydlynu’n genedlaethol – yn cael eu rhedeg ledled Cymru ac maen nhw’n edrych ar nifer o driniaethau ar gyfer cleifion, gan nodi’r ffactorau risg a’r genynnau penodol sy’n gwneud rhywun yn dueddol o ddal clefyd difrifol, oll yn cryfhau’r dystiolaeth i helpu i ymladd yn erbyn y clefyd.

Mae cleifion yn cael eu recriwtio ar draws sbectrwm cyfan y salwch, yn amrywio o’r rheini â symptomau yn y gymuned i gleifion mewn unedau gofal dwys sy’n ddifrifol wael. Mae astudiaethau hefyd yn canolbwyntio ar y triniaethau mwyaf effeithiol ar gyfer grwpiau penodol, gan gynnwys menywod beichiog a phlant a phobl ifanc nad ydy eu systemau imiwnedd yn gweithio fel y dylen nhw, gan effeithio ar eu gallu i ymladd yn erbyn clefyd.

Mae Hap-dreial Gwerthuso Therapi COVID-19 (RECOVERY) yn un o’r astudiaethau DU-eang sy’n mynd rhagddyn nhw ledled Cymru*, sy’n edrych i weld a allai cyffuriau sydd eisoes yn bodoli, neu rai newydd, helpu cleifion sydd wedi’u derbyn i’r ysbyty â COVID-19 wedi’i gadarnhau. Dyma hap-dreial clinigol mwyaf y byd o driniaethau posibl ar gyfer COVID-19, dan arweiniad Prifysgol Rhydychen ac wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Mae byrddau iechyd yng Nghymru** hefyd yn cymryd rhan yn REMAP-CAP: treial platfform ar gyfer cleifion sy’n ddifrifol wael â COVID-19. Mae’r treial hwn, sydd dan arweiniad Coleg Imperial Llundain yn y DU ac sy’n cael ei ariannu gan Ganolfan Feddygol Prifysgol Utrecth, yn rhoi nifer o driniaethau ar brawf ar yr un adeg, i gleifion sy’n cael eu derbyn i unedau gofal dwys â niwmonia difrifol sydd wedi’i ddal yn y gymuned.

Mae yna broses DU-eang sy’n blaenoriaethu astudiaethau ymchwil iechyd cyhoeddus brys i COVID-19, i sicrhau bod yr holl adnoddau’n cyfrannu at un ymdrech genedlaethol fawr sy’n casglu’r dystiolaeth angenrheidiol i ddarparu sail ar gyfer polisi ac i alluogi gwaith datblygu profion diagnostig, triniaethau a brechlynnau newydd, a rhoi’r rhain ar brawf.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Rydyn ni’n wynebu her na welwyd mo’i bath o’r blaen wrth i ni geisio mynd i’r afael â COVID-19 i’w atal rhag lledaenu. Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu defnyddio ein galluoedd a’n harbenigedd ymchwil i gasglu tystiolaeth amserol a allai arwain at y triniaethau a’r gofal mwyaf effeithiol ac, yn y pen draw, at frechlyn.

“Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n blaenoriaethu adnoddau a chefnogaeth garlam ar gyfer astudiaethau ymchwil iechyd cyhoeddus brys i COVID-19, ac mae hefyd yn gweithio gyda chymheiriaid yn y DU i alluogi ymchwilwyr yng Nghymru i gael gafael mewn cyllid ar gyfer ymchwil i COVID-19.

“Rydyn ni’n annog sefydliadau ac ymchwilwyr Cymru i ymateb i’r anghenion am ymchwil frys sy’n gysylltiedig â’r pandemig a’i effaith.

“Rydw i o’r farn bod y gymuned ymchwil yng Nghymru’n gallu parhau i wneud gwahaniaeth a chwarae rhan lawn mewn dod o hyd i ateb i COVID-19.”

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen, a meddygon teulu ledled Cymru, i sefydlu astudiaeth Hap-dreial Platfform o Ymyriadau yn Erbyn COVID-19 Mewn Pobl Hŷn (PRINCIPLE). Nod y treial yw rhoi ateb cyflym ynglŷn ag effeithiolrwydd gwahanol driniaethau wrth newid datblygiad y clefyd. Hydrocsiclorocwin, sef triniaeth ar gyfer malaria, yw’r driniaeth gyntaf y mae’n edrych arni.

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rydw i’n hynod falch o’r gymuned ymchwil yng Nghymru sy’n chwarae ei rhan yn yr ymdrech DU-eang i ymladd y frwydr yn erbyn pandemig Coronafeirws COVID-19.

“Bu ymateb eithriadol oddi wrth y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i’r angen am ymchwil iechyd cyhoeddus frys, ac mae astudiaethau’n cael eu sefydlu o fewn 24 awr mewn rhai achosion.

“Mae ymchwil yn hanfodol i ddelio â’r pandemig hwn, ac mae’r astudiaethau hyn yn darparu’r dystiolaeth i alluogi gwaith datblygu triniaethau, diagnosteg a brechlynnau newydd.

“Diolch yn fawr i bawb sydd wrthi’n helpu i wneud i hyn ddigwydd. Boed yn ymchwilydd, yn nyrs ymchwil, yn weinyddwr neu’n glaf – rydych chi i gyd yn helpu i fod yn rhan o’r ateb i COVID-19.”

Mae timau ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n gweithio’n galed i recriwtio cleifion i gymryd rhan mewn astudiaethau, o feddygfeydd meddygon teulu trwodd i unedau gofal dwys, yn ogystal ag ysbytai maes ledled Cymru.

Mae Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn goruchwylio gwaith sefydlu a chyflenwi astudiaethau ymchwil COVID-19 yn Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Meddai Jayne, sy’n nyrs ymchwil:

“Mae staff ymchwil glinigol wedi derbyn llawer iawn o hyfforddiant ond mae eu nifer yn fach o fewn gweithlu’r GIG. Maen nhw’n hanfodol i gyflenwi astudiaethau ymchwil ar reng flaen gofal.

“Mae sefydlu ymchwil yn Ysbyty Calon y Ddraig wedi bod yn her newydd, ond mae’n hanfodol bod cleifion ym mhob un o’n cyfleusterau ledled Cymru’n cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn  ymchwil, i dderbyn triniaethau ac i wneud gwahaniaeth i ofal a thriniaeth COVID-19 yn y dyfodol.”

Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dudalen we am ymchwil COVID-19 yng Nghymru sy’n manylu ar yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sydd ar waith, neu ar y gweill, yng Nghymru.

 

 

*Mae treial RECOVERY ar agor ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

**Mae treial REMAP-CAP ar agor ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae wrthi’n cael ei sefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.