Cymru’n chwarae rhan mewn astudiaeth geneteg arloesol yn y frwydr yn erbyn COVID-19

13 Mai

Mae Cymru’n chwarae rhan mewn astudiaeth geneteg newydd bwysig o COVID-19, dan arweiniad y bartneriaeth rhwng Consortiwm Astudiaeth GenOMICC (y mae Prifysgol Caeredin yn ei arwain) a Genomics England. Bydd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Matt Hancock ar 13 Mai, yn ein helpu ni i ddeall yn well effeithiau amrywiol y feirws ar bobl ac yn cefnogi’r ymdrech i ddod o hyd i driniaethau.

Bydd cod genetig miloedd o bobl sy’n ddifrifol wael â COVID-19, gan gynnwys y rheini sydd mewn uned gofal dwys ar hyn o bryd neu sydd wedi bod mewn un o’r blaen, yn cael ei astudio i helpu gwyddonwyr i ddeall p’un a yw geneteg rhywun o bosibl yn ei wneud yn fwy tueddol o ddioddef o’r feirws.

Bydd ymchwilwyr o brosiect GenOMICC Prifysgol Caeredin yn cydweithio â Genomics England a mwy na 170 o ysbytai’r GIG, gan gynnwys y rheini yng Nghymru.  Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cydlynu gwaith sefydlu a recriwtio i’r astudiaeth ym Myrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda. Nod yr astudiaeth yw canfod dilyniant genomau 20,000 o bobl sy’n ddifrifol wael â COVID-19. Yng Nghymru, mae 100 o gleifion eisoes wedi’u recriwtio i astudiaeth GenOMICC.

Bydd y data y bydd Byrddau Iechyd yng Nghymru ac eraill yn eu casglu’n cael eu cymharu â data 15,000 o gleifion COVID-19 eraill â symptomau ysgafn yn unig. Bydd y data hyn yn cael eu casglu oddi wrth y rheini sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect 100,000 o Genomau ac UK Biobank.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n dysgu cymaint â phosibl am COVID-19 fel ein bod ni’n gallu darparu’r triniaethau a’r gofal mwyaf effeithiol i bob claf.

“Mae’n bosibl yn bydd yr ymchwil arloesol yma’n ein helpu ni i ddarganfod pam fod rhai cleifion yn cael haint ysgafn, tra bo angen triniaeth gofal dwys ar eraill a pham, trist dweud, fod rhai yn marw.

“Trwy ymchwil, gallwn ni ddarganfod y dystiolaeth sydd ei hangen i roi’r deilliant gorau posibl i bob claf.”

Meddai Dr Matt Morgan, arweinydd arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer gofal critigol yng Nghymru:

“Mi ddylen ni i gyd fod yn falch iawn, er gwaethaf yr heriau anferthol, bod unedau gofal dwys ledled Cymru wedi bod yn gyfranwyr blaengar at dreialon ymchwil â’r nod o ddeall COVID. Mae achub bywydau’n galw am fwy na pheiriannau anadlu a gwelyau ysbyty; mae’n galw am wneud ymchwil o ansawdd uchel ar y cyd. Heb yr ymchwil hon, ni fyddwn ni’n gallu deall, atal neu drin clefydau sy’n bygwth bywyd, gan gynnwys COVID. Mae ymchwil yn bwysicach nawr nag erioed.”

Meddai Dr Tamas Szakmany, Ymgynghorydd Gofal Critigol Oedolion ac Anesthesia, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae GenOMICC yn astudiaeth sy’n syml i’w sefydlu a recriwtio iddi gyda help timau Ymchwil a Datblygu lleol ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mi hoffwn i annog pob uned gofal critigol yng Nghymru i gymryd rhan, fel y gallwn ni gael atebion pwysig ynglŷn â gwahanol rhagdueddiadau genetig yn achos clefyd COVID-19.”

Meddai Dr Kenneth Baillie, y Prif Ymchwilydd ar astudiaeth GenOMICC:

“Mae ein genynnau’n chwarae rhan mewn pennu pwy sy’n dod yn ddifrifol wael â heintiau fel COVID-19. Bydd deall y genynnau hyn yn ein helpu ni i ddewis triniaethau ar gyfer treialon clinigol. Mae astudiaeth GenOMICC wedi bod yn rhedeg ers 2016 ac mae wedi bod yn ymchwilio i ffactorau genetig sy’n effeithio ar sut y mae cleifion yn ymateb i nifer o glefydau difrifol. Ers dechrau’r brigiad mewn achosion o COVID-19, a chyda chefnogaeth aruthrol cymuned gofal critigol y DU, mae’r astudiaeth wedi ehangu a chyflymu’n aruthrol, ac rydyn ni nawr yn recriwtio mewn dros 170 o unedau gofal dwys ar hyd a lled y wlad. Dwi’n falch iawn o weithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gyflawni’r gwaith pwysig hwn.”

Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dudalen we am ymchwil COVID-19 yng Nghymru sy’n manylu ar yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sydd ar waith, neu ar y gweill, yng Nghymru.

 


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm cyfathrebu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: ymchwiliechydagofal@wales.nhs.uk