Tair gwraig yn eistedd bwrdd yn trafod ymchwil

Rolau Cynghorwyr Datblygu Ymchwil newydd i helpu i gyflawni mentrau datblygu ymchwilwyr

22 Chwefror

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn recriwtio Cynghorwyr Datblygu Ymchwil.

Cefndir

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi datblygu cynlluniau dyfarniadau personol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru integredig newydd sydd wedi’u strwythuro ar draws dau brif faes sef y Cynllun Dyfarniad Datblygu Ymchwilwyr (yn darparu mynediad ar draws amrywiaeth o lwybrau dyfarnu) a’r Cynlluniau Cymrodoriaeth Doethurol, Estynedig ac Uwch. Gyda’i gilydd, bwriedir iddynt gyfrannu at y capasiti ymchwil a’r agenda allu ar draws sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ac arwain at nifer fwy o ymchwilwyr annibynnol sy’n dod i’r amlwg gan arwain at ymchwil wedi’i ariannu o ansawdd uchel o Gymru.

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn bwriadu prynu amser (uchafswm o 0.4 cyfwerth ag amser llawn) i hyd at 3 Cymrawd Ymchwil Uwch / Uwch Ddarlithydd ddarparu swydd Cynghorydd Datblygu Ymchwil. Bydd y Cynghorwyr Datblygu Ymchwil yn parhau i gael eu cyflogi gan eu cyflogwr presennol gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu ad-dalu’r sefydliad cyflogi am yr amser a dreulir yn cyflawni’r swydd Cynghorydd Datblygu Ymchwil.

Bydd y Cynghorwyr Datblygu Ymchwil yn datblygu ac yn darparu amrywiaeth o fentrau datblygu ymchwilwyr wedi’u targedu Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau

Gan weithio yn atebol i Gyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a thîm gweinyddol ehangach Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd y Cynghorwyr Datblygu Ymchwil yn:

  • Cynllunio, darparu a gwerthuso amrywiaeth o fentrau datblygu ymchwilwyr wedi’u targedu yn gysylltiedig â chynlluniau dyfarniadau personol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
  • Sicrhau bod ganddynt drosolwg o hyfforddiant dylunio a dulliau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol hygyrch sy’n berthnasol i gynlluniau dyfarniadau personol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
  • Datblygu a gweithredu proses gyfeirio gynhwysfawr ar draws Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyfan i gefnogi mewnbwn arbenigwyr pwnc i gynigion ymchwil ar bob cam o gylch oes y cais am gyllid.

Fel Cynghorydd Datblygu Ymchwil i Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, byddwch yn ymchwilydd profiadol a sefydledig yn arwain portffolio sylweddol o waith ymchwil ym maes iechyd a/neu ofal cymdeithasol. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, arbenigedd mewn methodoleg ymchwil iechyd a/neu ofal cymdeithasol cymhwysol a hanes profedig o ddatblygu a darparu hyfforddiant dylunio a dulliau ymchwil o ansawdd uchel.

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais (.docx)

Os hoffech ragor o gefndir, rhestr o dasgau allweddol, manyleb person a gwybodaeth am gymorth ariannol a chymorth arall, gweler y pecyn gwybodaeth i Gynghorwyr Datblygu Ymchwil Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (.pdf).

I wneud ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â’r Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, BusseME@cardiff.ac.uk NEU Alex Hills, Pennaeth Datblygu Ymchwilwyr Cenedlaethol, Alex.Hills@Wales.nhs.uk

Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 17:00 17 Mawrth 2023

Hysbysu am y canlyniad: Dechrau mis Ebrill 2023

Dyddiad cychwyn: O 1 Mai 2023

Dylai ymgeiswyr nodi y gallent gael eu gwahodd i gyfweliad.