Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2020

Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2020: Yn gwneud gwahaniaeth – effaith ymchwil iechyd a gofal

Ar 7 Hydref 2020 cynhaliom ein cynhadledd ddigidol gyntaf erioed yn canolbwyntio ar y thema 'Gwneud gwahaniaeth: effaith ymchwil iechyd a gofal' - diolch enfawr i bawb a gymerodd ran.

Os na wnaethoch chi lwyddo i fynychu y digwyddiad yn fyw, neu os hoffech chi wylio unrhyw beth eto, ‘rydym wedi recordio'r holl sesiynau llawn a’r gweithdai sydd bellach ar gael i chi eu gwylio. Mae'r cyflwyniadau llafar a'r arddangosfa rithwir hefyd yn dal ar agor, felly gallwch ddal i fyny ar unrhyw beth y gwnaethoch ei golli.


Cyfarfodydd Llawn

Capasiti a diwylliant ymchwil yn y GIG

Cofnodi'r Cyfarfod Llawn

Cyflwyniadau Siaradwyr

Gwybodaeth Sesiwn

Faint o gynnydd o ddifrif ydyn ni wedi’i wneud o ran sefydlu diwylliant ymchwil yn y GIG yng Nghymru, a rhoi’r capasiti a’r gallu i sefydliadau ymgysylltu ag ymchwil yn ogystal â defnyddio tystiolaeth ymchwil wrth wneud eu penderfyniadau? Ydy ymchwil o’r pwys mwyaf i uwch arweinwyr – llunwyr polisi, clinigwyr ac aelodau o fyrddau iechyd a byrddau ymddiriedolaeth? 

Yn y sesiwn hon, bydd Simon Denegri, prif weithredwr Academi’r Gwyddorau Meddygol yn myfyrio ar yr hyn sydd i’w ddysgu oddi wrth adroddiad cyntaf o’i fath yr Academi y llynedd ar gapasiti a diwylliant ymchwil y GIG, a bydd Usha Boolaky, cyfarwyddwr cynorthwyol ymchwil y Sefydliad Iechyd yn siarad o safbwynt cyllidwr ymchwil mwy ei faint am eu profiad o weithio gyda sefydliadau’r GIG ar ddatblygu’r agenda ymchwil a’i rhoi ar waith.  Un cwestiwn allweddol fydd – beth ddylen ni fod yn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol? Bydd digon o gyfleoedd i godi cwestiynau a chael dadl adeiladol ynglŷn â’r materion hynny.

Siaradwyr:

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru

Professor Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Simon Denegri OBE, Cyfarwyddwr Meddygol, Academi'r Gwyddorau Meddygol

Usha Boolaky, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil, Y Sefydliad Iechyd

Sesiwn banel: Ymateb ymchwil i’r pandemig COVID-19

Cofnodi'r Cyfarfod Llawn 

Gwybodaeth Sesiwn

Yn y misoedd diwethaf, mae’r pandemig COVID-19 wedi taflu goleuni ar ymchwil iechyd a gofal fwy nag erioed o’r blaen  – ar y radio a’r teledu, yn y papurau, yn nhir gwyllt y cyfryngau cymdeithasol, ac wrth wraidd rhai dewisiadau polisi eithriadol anodd i’r llywodraeth.  Fe ymddengys fod llawer o’r sylwebyddion bellach yn epidemiolegwyr, modelwyr hunanddysgedig neu hunanbenodedig ac yn arbenigwyr ar bopeth o drosglwyddo feirol i dreialon clinigol a brechlynnau. Mae yna ffrwydrad anferthol o ran gweithgarwch ymchwil yn ymwneud â COVID-19, gyda’r llywodraeth ac arianwyr eraill yn buddsoddi’n helaeth yn y DU ac yn rhyngwladol.  Yn y drafodaeth banel hon gydag amrywiaeth o academyddion ac ymchwilwyr blaenllaw, byddwn ni’n archwilio beth rydyn ni wedi’i ddysgu ynglŷn â sut i wneud a sut i ddefnyddio ymchwil o’r pandemig hwn – a pha wersi y byddwn ni o bosibl am eu cadw i’w defnyddio yn y dyfodol ôl-pandemig, ynglŷn a sut i drefnu, ariannu, ymgymryd â’r gwaith, rhannu a defnyddio ymchwil iechyd a gofal mewn ffyrdd sy’n cael effaith ac sydd o werth gwirioneddol a chynaledig.

Siaradwyr:

Astrid Burrell, Cynrychiolydd y Cyhoedd a Chleifion ar Grŵp Rheoli Treialon Trident

Dr Angharad Davies, Athro Cyswllt Clinigol/Microbiolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus

Lisa Trigg, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, Data a Deallusrwydd Gofal Cymdeithasol Cymru

Yr Athro Christopher Butler, Athro Gofal Sylfaenol Cyfarwyddwr Clinigol, Uned Treialon Clinigol Gofal Sylfaenol a Brechlynnau Prifysgol Rhydychen

Gweithio gyda llunwyr polisi i wneud defnydd o ymchwil a thystiolaeth 

Cofnodi'r Cyfarfod Llawn 

Cyflwyniadau Siaradwyr - Yr Athro Paul Cairney

Cyflwyniadau Siaradwyr - Yr Athro Steve Martin

Gwybodaeth Sesiwn

Cydnabyddir yn gyffredinol – a hynny ers cryn amser – bod y gymuned ymchwil yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn canolbwyntio ar gynhyrchu ymchwil, a llawer yn llai ar weithio allan sut i ddefnyddio tystiolaeth ymchwil i newid polisi ac arfer, heb sôn am fynd ati i wneud hynny.  Byddai rhai yn gofyn faint ddylen ni ddisgwyl mewn difrif i ymchwilwyr ymgysylltu â hwrli bwrli systemau iechyd a gofal i sicrhau bod ymchwil yn cael ei defnyddio’n gynhyrchiol i gynhyrchu gwelliannau.  Yn y sesiwn hon, bydd dau academydd â phrofiad helaeth o weithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr, ac ar draws cymunedau ymchwil/arfer, yn rhannu eu profiadau a’u syniadau.  Mae Steve Martin, academydd ac ymchwilydd blaenllaw ym maes llywodraeth leol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cyfarwyddo Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac yn gweithio’n agos â gwleidyddion a’u cynghorwyr yn Llywodraeth Cymru.  Mae Paul Cairney, athro gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Stirling, wedi astudio sut y mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio yn y broses polisi, natur gymhleth, ailadroddol a goddrychol llunio polisi, a’r hyn y mae ymchwilwyr yn gallu ei gyfrannu.

Siaradwyr:

Yr Athro Paul Cairney, Athro Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus

Yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Richard Kyle, Pennaeth yr Is-adran Ymwchil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru


Gweithdai

Mapio cysyniadau grŵp: Dull consensws rhyngweithiol i ddeall yr effaith mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol

Recordio gweithdy

Cefndir

Ffordd o weithredu sy’n defnyddio dulliau cymysg ydy Mapio Cysyniad Grŵp (GCM) gan ganiatáu i ymchwilwyr gynhyrchu consensws â rhanddeiliaid a’r rheini sy’n cymryd rhan mewn gweithdai a fformatau ar-lein. Mae GCM yn cynnwys tri chyfnod astudio; taflu syniadau, didoli a sgorio.

Mae’r grŵp GCM ym Mhrifysgol De Cymru a Chanolfan PRIME Cymru wedi defnyddio GCM mewn astudiaethau ynglŷn â phresgripsiynu cymdeithasol, cydnerthedd teuluol, llesiant, gofal tosturiol a gofal cymhleth.

Nod

Nod y gweithdy hwn ydy cyflwyno GCM i’r mynychwyr trwy fynd â nhw trwy broses cynnal astudiaeth GCM, o safbwynt yr ymchwilydd ac o safbwynt y sawl sy’n cymryd rhan, a bydd yn dangos pa mor ddefnyddiol ydy’r dull hwn mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Y gweithdy

Yn gyntaf, bydd y dull yn cael ei gyflwyno i’r mynychwyr, cyn mynd ati i gymryd rhan mewn tri chyfnod astudiaeth ryngweithiol a fydd yn para 10 munud yr un, ar sail astudiaeth enghreifftiol “Defnyddio dulliau consensws i ddatblygu Fframwaith Anghenion Dysgu Presgripsiynu Cymdeithasol ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru” (Wallace et al., 2020). Bydd yr ymchwilwyr yn esbonio sut y mae darganfyddiadau’n cael eu dadansoddi a sut y gall ymchwilwyr, ymarferwyr, comisiynwyr a llunwyr polisi eu dehongli a’u defnyddio. Bydd y mynychwyr yn trafod ffyrdd posibl o ddefnyddio GCM yn eu meysydd ymchwil eu hunain.

Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan yr Athro Carolyn Wallace a’r Athro David Pontin, a bydd hwyluswyr GCM hyfforddedig o grŵp GCM Prifysgol De Cymru’n cefnogi.

Effaith

Mae GCM yn ddull amlddefnydd y gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o amgylcheddau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol i archwilio heriau, effaith ac atebion ac i ddatblygu fframweithiau ymarferol

Siaradwyr:

Megan Elliot, Uwch gynorthwyydd ymchwil, Prifysgol De Cymru

Yr Athro Carolyn Wallace, Athro Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymunedol

Yr Athro David Pontin, Cadeirydd iechyd cymunedol Aneurin Bevan, Prifysgol De Cymru

Gwersi sydd wedi’u dysgu o effaith y pandemig COVID19 o safbwynt Y&D y GIG

Recordio gweithdy

Pan ddaeth y newyddion cyntaf am y mesurau ar gyfer COVID-19 i’r fei yng nghanol mis Mawrth 2020, daeth y tîm Uwch Reolwyr yn BIPAB at ei gilydd i lunio cynllun gweithredu. Roedd hwn yn glefyd newydd a doedd fawr dim gwybodaeth am ei effaith tymor byr a hir ar gleifion a staff. Roedd hyn yn cynnwys:

Trefnu swyddfeydd fel bod gweithio o bell yn beth arferol. Atal treialon nad oedden nhw’n dreialon COVID-19 dros dro, dros 48-72 awr. Gweithio 7/7 i sicrhau bod y camau gofynnol yn cael eu cymryd yn gyflym. Sefydlu treialon Iechyd Cyhoeddus Brys COVID-19 gan fod nifer y cleifion a oedd yn dod i’r ysbyty’n effeithio’n ddrwg ar Gasnewydd.

 

Wrth symud ymlaen, mae angen i ni nawr gadw’r ffyrdd newydd o weithio wrth i dreialon heblaw am rai COVID-19 ailddechrau, neu wrth iddyn nhw gau, a sicrhau bod treialon newydd yn cael eu hagor mewn meysydd sydd eu hangen ar gleifion. Mae sut y gellir cyflenwi ymchwil COVID-19 ochr yn ochr â threialon eraill i sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu yn gwestiwn y byddwn ni’n ei ystyried yn y gweithdy hwn.

Rydyn ni wedi dysgu cryn dipyn am fagu dull â chymaint o ffocws, gan gynnwys:

Mor werthfawr oedd canolbwyntio ein staff cyflenwi o amrywiaeth eang o feysydd pynciau treialon clinigol mewn un maes, sef COVID-19. O fewn 48 awr, roedd nyrsys ymchwil a oedd wedi hen arfer â chefnogi treialon Iechyd Meddwl yn gweithio yn yr Uned Therapi Dwys yn cefnogi’r treialon hynny. Roedd ein staff wedi ymrwymo’n llwyr i weithio mewn ffyrdd newydd ac yn barod iawn i symud i amgylchedd clinigol arall, yn dysgu sgiliau newydd ac yn cymryd cyfrifoldeb o fath gwahanol. Mor gyflym y symudodd yr HRA a’r broses ganiatáu i alluogi sefydlu treialon COVID-19 mewn rhyw ychydig o ddiwrnodau. Rhedeg y treial brechlyn COVID-19 cyntaf yng Nghymru, yn ogystal â recriwtio llawer o bobl i 15 o dreialon COVID-19, yn rhai Iechyd Cyhoeddus Brys ac yn rhai eraill. Mae hyn wedi bod yn brofiad heriol ond hynod werth chweil.

 

Siaradwyr:

Anna Roynon Reed, Arweinydd y tîm cyflenwi ymchwil, Brwdd Iechyd Prifysgol Anuerin Bevan

Yr Athro Sue Bale OBE, Cyfarwyddwr ymchwil a datblygu, Brwdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cyfeiriad ymchwil gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn y dyfodol. Sut orau allwn ni wneud gwahaniaeth i iechyd a gofal cymdeithasol?

Recordio gweithdy

Cysylltwch â wsspr@southwales.ac.uk os hoffech roi cynnig ar y feddalwedd a ddefnyddwyd yn y gweithdy hwn.

Mae Ymchwil Gwasanaethau Iechyd (YGI) yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n effeithlon, yn effeithiol ac yn canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr gwasanaeth. Fodd bynnag, mae cyflenwi YGI hynod effeithiol ac arloesol yn dasg gymhleth sy’n dibynnu ar gydweithredu amserol rhwng ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, academyddion, llunwyr polisi a defnyddwyr gwasanaeth.

Nod y gweithdy hwn ydy archwilio’r angen am greu rhwydwaith YGI yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â chyd-ofynion amrywiol ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ymarferwyr, llunwyr polisi a defnyddwyr gwasanaeth, ac archwilio dichonoldeb hyn.

Gallai buddion rhwydwaith o’r fath gynnwys dod â syniadau, canllawiau a chefnogaeth at ei gilydd i helpu i gyflenwi YGI o ansawdd uchel ac i ddeall, archwilio a mynd ar drywydd cyfleoedd partneriaeth ar draws sectorau yn well.

Bydd mynychu’r gweithdy’n golygu y bydd cyfranogion wedi cyfrannu at, a darparu sail ar gyfer trafodaethau parhaus ynglŷn â dyfodol rhwydwaith YGI yng Nghymru, a byddan nhw’n cael gwahoddiad i gyfrannu eto at drafodaethau yn y dyfodol.

Siaradwr

Yr Athro Aled Jones, Athro diogelwch cleifion ac ansawdd gofal iechyd, Prifysgol Caerdydd

Dyfodol ymchwil i drais a cham-drin domestig yng Nghymru: Gosod agenda ar gyfer iechyd cyhoeddus

Recordio gweithdy

Mae trais a cham-drin domestig (TChD) yn broblem iechyd cyhoeddus fyd-eang y gall unrhyw un ddioddef ohoni, waeth beth fo’u statws economaidd-gymdeithasol, eu grŵp diwylliannol neu eu grŵp crefyddol (Sefydliad Iechyd y Byd, 2019) ac mae wedi’i gysylltu ag effeithiau iechyd corfforol a seicolegol (Afifi et al., 2009; Boyle et al., 2006; Devries et al., 2013; Oram et al., 2017). Mae TChD yn hynod gyffredin, gydag amcangyfrif o 2.4 miliwn o oedolion rhwng 16 a 74 oed yn dioddef o TChD ledled Cymru a Lloegr yn 2019 (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2019). Yn ôl amcangyfrif y Swyddfa Gartref, roedd cost trais domestig yn y DU yn rhyw £66 biliwn yn 2019. Nid yw hyn yn cynnwys y gost sy’n gysylltiedig â cham-drin emosiynol ac ariannol a’r effaith ar blant.

Y diffiniad o TChD ydy ‘unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau lle ceir ymddygiad, trais neu gam-drin gorthrymus, gormesol neu fygythiol rhwng y rheini sy’n 16 oed neu hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu’n aelodau o deulu, waeth beth fo’u rhyw neu eu rhywioldeb. Mae hyn yn gallu cwmpasu, ymhlith pethau eraill, y mathau a ganlyn o gam-drin: seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol a/ neu emosiynol’. Mae diffiniadau cyfreithiol o TChD yn golygu mai dim ond y rheini dros 16 oed sy’n gallu cael eu herlyn am TChD, sy’n arwain at y gamddealltwriaeth mai dim ond mewn perthnasoedd oedolion y mae TChD yn digwydd.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth sy’n dod i’r fei yn awgrymu bod plant a phobl ifanc hefyd yn gallu dioddef o TChD (e.e. Young et al, 2019).  

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ariannu canolfan ymchwil DECIPHer, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu, gwerthuso a gweithredu ymyriadau i wella iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Mae gan raglen ymchwil ryngddisglybaethol yn DECIPHer o’r enw ‘Perthnasoedd Iach’ bwyslais penodol ar TChD. Mae’r ganolfan eisoes yn cynnal ymchwil i’r maes hwn, ond mae angen ymgysylltu â rhanddeiliaid i hyrwyddo’i flaenoriaethau ymchwil ymhellach yn y dyfodol.

Yn y gweithdy, rydyn ni’n bwriadu cyflwyno’r ymchwil sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd i fynd i’r afael â thrais domestig mewn tri amgylchedd gwahanol; ysgolion uwchradd, sefydliadau’r trydydd sector a gofal iechyd, gan roi gwybod i’r mynychwyr am y dystiolaeth bresennol. Bydd y gweithdy yn myfyrio ynglŷn â’r dystiolaeth hon ac yn cael y mynychwyr i ymgysylltu â gweithgareddau rhyngweithiol a thrafodaethau, â’r nod o flaenoriaethu a chytuno ar agenda ymchwil yn y dyfodol yng Nghymru.

Siaradwyr:

Bethan Pell, Cydymaith ymchwil, Prifysgol Caerdydd

Dr Kelly Buckley, Cydymaith ymchwil, Prifysgol Caerdydd

Defnyddio data sydd wedi’u cysylltu i ymateb i’r pandemig COVID-19 yng Nghymru

Recordio gweithdy

Mae pandemig COVID19 yn argyfwng iechyd cyhoeddus mawr. Rhoddwyd blaenoriaeth i ddeall y feirws newydd hwn, ei drosglwyddiad a'i effaith ar rannau o'r boblogaeth. Mae cysylltu data o sawl ffynhonnell wedi bod yn hanfodol er mwyn deall lledaeniad yr haint yn y gymuned a bod yn sail i wrthfesurau.

Ymchwil Data Iechyd y DU sy'n darparu diweddariadau wythnosol y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) ar fynediad at ddata cysylltiedig â COVID19 ledled y DU. Mae'r system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn arwain y DU gyda phrosiectau mwy gweithredol nag mewn mannau eraill (66/131).

Gan ymateb i argyfwng COVID19, cafodd tîm HDRUK Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ei secondio i weithio i Brif Swyddog Meddygol Cymru ar ddefnyddio cysylltiadau data i ddeall datblygiad y pandemig, cynghori ar ddatblygiadau polisi a gwerthuso ymyriadau. Sefydlwyd grŵp Un Gymru gyda mewnbwn gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac academyddion ar draws prifysgolion Cymru. Ariannwyd dau gais dilynol i'r Cyngor Ymchwil Meddygol: Rheoli COVID19 drwy well trefniadau cadw gwyliadwriaeth ar y boblogaeth a gwell ymyrraeth (Con-COV): dull platfform, a Pha fodel brysbennu sydd fwyaf diogel a'r mwyaf effeithiol ar gyfer Rheoli galwyr 999 yr amheuir bod COVID-19 arnynt? Astudiaeth o ganlyniadau cysylltiedig (TRIM).

Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â Con-COV ac mae hefyd yn cysylltu sawl set ddata wahanol fel rhan o'i ymateb.

Bydd y gweithdy'n manylu ar y setiau data a'r dulliau methodolegol sy'n cael eu defnyddio yn yr astudiaethau hyn a'r potensial ar gyfer rhagor o ymchwil.

Siaradwyr:

Ashley Akbari, Uwch reolwr ymchwil a gwyddonydd data, Prifysgol Abertawe

Professor Ronan Lyons, Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth a’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw


Cyflwyniadau


Mae'r holl gyflwyniadau i'w gweld ar restr chwarae cyflwyniadau Cynhadledd 2020 ar YouTube


Gwobrau

Gwobr Cyflawniad Cyfranogiad y Cyhoedd 2020

Enillydd

Cyd-gynhyrchu Gwasanaethau Arennau Cynaliadwy i Oedolion - dysgu o'r astudiaeth Opsiynau a Dewisiadau Dialysis

Ymgais gan Leah McLaughlin, Gareth Roberts a David Fellowes

 ceisiadau ar y rhestr fer

DOMINO HD: Enghraifft o ymgysylltiad traws-ddiwylliannol llwyddiannus gyda chynrychiolwyr y cyhoedd a chleifion i ddylunio astudiaeth arsylwadol aml-genedlaethol.

Ymgais gan Monica Busse, Cheney Drew, Phillippa Morgan-Jones a Barry Mackintosh

Recriwtwyr yn unig? Cyfraniad cyfoethog ymchwilwyr cymheiriaid i astudiaeth o brofiadau Roma, Sipsiwn a Theithwyr ’o ganser

Ymgais gan yr Athro Louise Condon, Jolana Turejova, Leanne Morgan, Glenn Miles a Deborah Fenlonand

LEAP-MS: Cyd-gynhyrchu pecyn ffordd o fyw, ymarfer corff a gweithgaredd ar gyfer pobl â sglerosis ymledol cynyddol

Ymgais gan Dr Julie Latchem-Hastings, yr Athro Monica Busse a Barbara Stensland

Stondin arddangos rithwir orau 2020

Enillydd

Economeg Iechyd a Gofal Cymru

 

Y cyflwyniad llafar gorau 2020

Enillydd

Gwasanaeth Ymgynghori Fideo Cenedlaethol - Gwreiddio a chynyddu arloesedd

Cyflwyniad llafar gan Alka Ahuja