Faculty team

Cynlluniau Cymrodoriaeth Ddoethurol a Chymrodoriaeth Uwch Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – yn lansio cyn bo hir

12 Medi

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yr alwad am geisiadau ar gyfer y Cynlluniau Cymrodoriaeth Ddoethurol a Chymrodoriaeth Uwch yn agor ar 25 Medi.

Mae'r cymrodoriaethau yn cynnig hyd at dair blynedd o arian amser llawn neu ddewisiadau rhan-amser dros dymor hirach.

Gwahoddir ceisiadau gan y rhai sy'n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd neu ofal cymdeithasol i ymgymryd ag ymchwil a fydd o fantais i'r cyhoedd, ymarfer neu bolisi’r gwasanaeth iechyd, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr neu wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth yng Nghymru.

Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ymrwymiad clir i yrfa ymchwil a dangos sut y bydd y dyfarniad yn cefnogi eu potensial i ddod yn ymchwilwyr annibynnol. 

Mae'r cynllun Cymrodoriaeth yn cynnig cyfleoedd ariannu mewn amrywiaeth eang o wasanaethau trosi neu glinigol ac iechyd a phynciau sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol neu iechyd y cyhoedd. Bydd angen i bob ymgeisydd wneud achos cryf dros yr angen am ei gais ymchwil a’i bwysigrwydd. Bydd hyn yn cynnwys: 

  • disgrifiad clir o'r angen clinigol/gwasanaethau iechyd/iechyd y cyhoedd/gofal cymdeithasol/lles y mae'r ymchwil yn ymdrin ag ef ac yn cyfiawnhau  pwysigrwydd yr angen hwnnw, o ran maint y broblem a/neu'r effaith debygol ar y rhai sydd â'r angen iechyd neu ofal y maent yn ymdrin ag ef.
  • gosod yr ymchwil sy’n cael ei gynnig ar y llwybr trosi neu glinigol neu gyd-destun polisi neu ymarfer priodol
  • disgrifiad o sut y cafodd y cwestiwn ymchwil ei nodi a'i ddatblygu a gan bwy
  • manylion am sut mae'r partneriaid ymchwil y cyhoedd fel cleifion/defnyddwyr gwasanaeth a/neu ofalwyr wedi bod yn rhan o ddiffinio’r cwestiynau, y dyluniad, y canlyniadau a’r dull o drosglwyddo gwybodaeth
  • dangos bod y dulliau sy’n cael eu cynnig yn addas ar gyfer ateb y cwestiwn ymchwil
  • esbonio sut mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u hystyried wrth lunio'r cwestiwn ymchwil, a sut mae'r prosiect yn ymdrin â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant neu'n cyfrannu atynt

Ceisiadau ar agor: Dydd Iau 25 Medi 2025

Dyddiad Cau: 16:00, Dydd Mawrth 13 Ionawr 2026

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we y cynlluniau ariannu

Cymorthfeydd Dyfarniadau Cymrodoriaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethurol neu Gymrodoriaeth Uwch, gofynnwch i'r tîm yn un o'r cymorthfeydd:

Cymrodoriaeth Ddoethurol

  • Dydd Mawrth 30 Medi 12:30 – 13:30
  • Dydd Gwener 17 Hydref 10:30 – 11:30
  • Dydd Iau 13 Tachwedd 14:00 – 15:00

Cymrodoriaeth Uwch

  • Dydd Gwener 3 Hydref 10:30 – 11:30
  • Dydd Mercher 15 Hydref 14:30 – 15:30
  • Dydd Llun 10 Tachwedd 09:30 – 10:30

I archebu’ch lle mewn cymhorthfa, llenwch y ffurflen gofrestru ar gyfer y Gymrodoriaeth Ddoethurol neu'r  Gymrodoriaeth Uwch.