Cynorthwywch i lunio gwaith ymchwil glawcoma y dyfodol

Mae’r Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg eisiau clywed gan bobl â phrofiad gwirioneddol o fyw gyda glawcoma. Bydd eich safbwyntiau yn helpu’r tîm i ddylunio gwaith ymchwil gwell sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig.

Mae ymchwilwyr y Ganolfan Treialon Ymchwil yn cynllunio prosiect ymchwil newydd i ddeall pam mae glawcoma yn gwaethygu mewn rhai pobl. Cyn gwneud cais am gyllid, mae’r tîm eisiau clywed gan bobl â phrofiad bywyd go iawn o glawcoma. Mae’r tîm eisiau sicrhau bod eu prosiect wir yn adlewyrchu anghenion pobl sy’n byw gyda glawcoma. Mae clywed profiadau bywyd go iawn yn helpu i lunio cynnig ariannu mwy perthnasol ac effeithiol.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Nid oes angen unrhyw brofiad neu hyfforddiant arbennig arnoch i gymryd rhan.
Os oes gennych glawcoma neu eich bod yn gofalu am rywun â glawcoma, eich profiadau personol sydd fwyaf pwysig.

Mae angen i chi:

  • Fod yn barod i rannu eich safbwyntiau
  • Gallu ymuno â chyfarfod (drwy fideo neu dros y ffôn)
  • Byw yng Nghymru neu’n cael triniaeth glawcoma yng Nghymru
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Ymuno ag un cyfarfod grŵp ar-lein (am un awr a hanner) gyda’r tîm ymchwil.
  • Rhannu eich profiadau o fyw gyda glawcoma (neu gefnogi/gofalu am rywun â glawcoma).
  • Trafod eich tybiaethau o driniaethau glawcoma a sut mae glawcoma yn effeithio bywyd bob dydd.
  • Ateb cwestiynau gan yr ymchwilwyr i’w helpu i ddeall yr hyn sydd bwysicaf i bobl â glawcoma.
  • Gwrando ar safbwyntiau pobl eraill yn ystod y drafodaeth a’u parchu.

Yn ddewisol, ystyriwch fod yn gyd-ymgeisydd ar y cais am grant ymchwil os oes gennych ddiddordeb mewn swyddogaeth tymor hwy.

Pa mor hir fydd fy angen?
  • Un cyfarfod ar-lein yn para awr a hanner.
  • Bydd y cyfarfod yn cael ei drefnu ar adeg sy’n gyfleus i’r grŵp.
  • Nid oes angen gwneud unrhyw waith paratoi cyn y sesiwn.

Ar ôl y cyfarfod, efallai y bydd cyfle dewisol i un neu ddau o bobl barhau i gymryd rhan fel cyd-ymgeiswyr ar y cais am gyllid, ond mae hynny i fyny i chi’n llwyr.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Buddion i chi:

  • Gwneud gwahaniaeth – helpu i lunio sut mae’r gwaith ymchwil yn cael ei ddylunio fel ei fod yn adlewyrchu profiadau go iawn o glawcoma.
  • Dylanwadu ar ofal y dyfodol – gallai eich mewnbwn wella sut rhoddir diagnosis o glawcoma a sut y caiff ei reoli, yn enwedig i bobl mewn perygl uwch iddo waethygu.
  • Cael eich gwerthfawrogi – mae ymchwilwyr eisiau gwrando ar eich safbwyntiau a’ch profiadau.
  • Nid oes angen profiad - dim ond parodrwydd i rannu eich safbwyntiau a gwrando ar eraill.

Cyfranogiad hygyrch - bydd y cyfarfod ar-lein, â deialu i mewn ar y ffôn ar gael a chymorth os oes angen.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Cwblhewch y ffurflen isod

Please complete the form below:

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Y Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm