Cynorthwyydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwyydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd y swydd yn darparu cymorth ymchwil i’r Tîm Prosiectau Arbenigol yng Nghyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Mae'r tîm yn datblygu gwybodaeth trwy ymchwil meintiol ac ansoddol gan gynnwys arolygon poblogaeth, adolygiadau systematig a gwerthusiadau. Bydd rhan allweddol o’r rôl yn cynnwys cefnogi cyflwyno Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn rhaglen waith draws-sefydliadol lle mae’r tîm yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad a Llywodraeth Cymru i ddylunio a dosbarthu holiaduron gyda samplau sy’n gynrychioliadol o boblogaeth Cymru. Mae'r pynciau a drafodir yn yr holiadur yn rhychwantu polisi, gwella iechyd, diogelu iechyd a'r gwasanaeth iechyd.
Bydd y rôl hon yn gyfle gwych i ymchwilydd rhagweithiol, brwdfrydig ac arloesol gefnogi casglu, cynhyrchua lledaenu gwybodaeth iechyd y cyhoedd i wella iechyd y boblogaeth a'r polisïau sy'n gysylltiedig â hi.
028-AC103-0425