Cynorthwyydd Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm ymchwil i ddatblygu'r deilliannau craidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd eu hangen i nodi ac asesu anghenion gofal pobl sy'n byw gyda glioma (y math mwyaf cyffredin o diwmor malaen yr ymennydd) a phenderfynu sut i weithredu'r rhain mewn lleoliadau'r GIG.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda Dr Stephanie Sivell ar y prosiect COMBaT dull cymysg, aml-gam (Deilliannau Craidd i Fesur anghenion clinigol mewn Tiwmorau sylfaenol yr Ymennydd) a gyllidir gan Fenter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI) Ymchwil Canser Cymru. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith ar draws yr holl becynnau gwaith a gynlluniwyd sy'n cynnwys adolygiad systematig wedi'i ddiweddaru, dadansoddiad eilaidd o gyfweliadau ansoddol, arolwg Delphi a gweithdy gweithredu gyda rhanddeiliaid allweddol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Marie Curie, o fewn Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth ym Mharc y Mynydd Bychan.
20154BR