pobl mewn cyfarfod

Darganfyddwch eich rôl: sefydlu Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd i Gymru

Mae cannoedd o bobl ledled Cymru yn helpu gwneud yn siŵr fod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn digwydd bob wythnos. Mae cefnogaeth aelodau'r cyhoedd yn hanfodol i sicrhau bod ymchwil yn cael ei redeg yn dda ac yn y pen draw yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Gall pobl gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil unigol (a elwir yn ‘gyfranogiad’) neu gallant rannu eu profiadau personol i helpu ymchwilwyr i flaenoriaethu, dylunio a darparu eu hymchwil yn effeithiol (a elwir yn ‘gynnwys’). Ond cyn y gall pobl gymryd rhan neu gael eu cynnwys, mae angen iddynt wybod pa ymchwil sy'n digwydd a pha rôl y gallant ei chwarae. Gelwir lledaenu’r gair am ymchwil yn ‘ymgysylltu.’

Rhoi’r cynllun ar waith

Yn 2020, cyhoeddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynllun gweithredu sy'n nodi sut i wella cynnwys ac ymgysylltiad y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Crëwyd y cynllun hwn, o'r enw Darganfod Eich Rôl mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mewn cydweithrediad ag aelodau o'r cyhoedd, ymchwilwyr a gweinyddwyr ymchwil, ac mae'n nodi camau i'w cymryd ar draws saith maes ffocws. 

Mae'r maes ffocws cyntaf yn amlinellu'r angen am rwydwaith mwy cydlynol ar gyfer trafodaethau cynnwys y cyhoedd lle gall pobl rannu arfer da a chael cefnogaeth. O hyn, datblygwyd cynllun ar gyfer sefydlu Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd i Gymru ac yna ei archwilio yn ystod gweithdy a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021.  

Yn ystod y gweithdy ar-lein hwn, daeth llawer o wahanol unigolion ynghyd i drafod sut y gallai'r Fforwm weithio. Ar y cyfan, roedd cefnogaeth gref i’r Fforwm ac i’r model arfaethedig o dri digwyddiad y flwyddyn, wedi’i danategu gan gread grwpiau llai o ‘weithgorau’ i fynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol. Cytunwyd y dylai'r Fforwm fod yn agored i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan ac er y cynhelir cyfarfodydd yn rhithiol i ddechrau, yn y dyfodol bydd cymysgedd o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Dod o hyd i atebion gyda’n gilydd

Mynychodd Soo Vinnicombe, Swyddog Ymchwil ac arweinydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant Poblogaeth, a leolir ym Mhrifysgol Bangor, y cyfarfod gweithdy ar 26 Ionawr. Meddai:

“Rydym yn gobeithio y bydd y Fforwm yn rhoi cyfleoedd i ni weithio’n fwy cydweithredol i gynyddu cynnwys y cyhoedd ledled Cymru a gwella’r profiad i bobl. Mae symud digwyddiadau a chyfarfodydd ar-lein yn ystod y pandemig hwn wedi creu cyfleoedd i rai aelodau o'r cyhoedd fod yn rhan o ymchwil, ond i eraill nad oes ganddynt fynediad at liniadur gartref neu sydd â materion yn cysylltu â'r rhyngrwyd, mae wedi cyflwyno mwy o rwystrau. 

“Mae’n bwysig iawn bod cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yn agored i bawb. Po fwyaf cynhwysol yw'r ymchwil, y mwyaf o effaith y bydd yn ei gael. Trwy'r Fforwm rydym am archwilio'r rhwystrau i bobl gymryd rhan ehangach mewn ymchwil a chydweithio er mwyn dod o hyd i'r atebion gorau. Yn aml gall y broses ymchwil fod yn eithaf brysiog, felly mae bod yn barod i weithredu'n gyflym yn allweddol. Mae'r Fforwm yn gam cadarnhaol tuag at hyn, a bydd yn ddiddorol gweld sut mae'n datblygu yn 2021.”

Dod â chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yn fyw

Mae'n bwysig bod y Fforwm yn ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl ac yn dod â chyfranogiad mewn ymchwil yn fyw. Mae hyn yn cynnwys clywed gan leisiau gwahanol, yn aelodau o'r cyhoedd ac ymchwilwyr, am eu profiadau o gynnwys y cyhoedd.

Os hoffech wybod mwy am y camau nesaf ar gyfer y Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd, darllenwch y ddogfen Crynodeb o'r Drafodaeth.

Gallwch hefyd archwilio'r pecyn briffio cynigion.

Cadwch yn gyfredol â'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd a digwyddiadau cynnwys y cyhoedd yng Nghymru trwy gofrestru â'n e-bost wythnosol 'Mae eich cyfranogiad yn bwysig'

Eisiau dysgu mwy am gynnwys y cyhoedd? Edrychwch sut y gallwch helpu gydag ymchwil. Gweithio ym maes ymchwil? Darllenwch ein cymorth a chanllawiau.


Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Chwefror 2021