Darlithydd - Prifysgil Caerdydd
Mae'r Ysgol Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd am benodi Darlithydd Firoleg neu Imiwnoleg Firaol i ymuno â’r Uned Firoleg Drosiadol. Mae’r Uned hon, sydd newydd ei sefydlu, yn gysylltiedig â’r Is-adran Heintiau ac Imiwnedd, yr Is-adran Canser a Geneteg, a'r Ganolfan Treialon Ymchwil, ac mae wedi'i lleoli ar Safle Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn deinamig sy'n ceisio datblygu rhaglen ymchwil annibynnol sy'n cyfrannu at ymchwil firoleg sylfaenol a chymhwysol. Ar ben hynny, bydd y rhaglen ymchwil hon yn rhoi gwell dealltwriaeth o bathogenesis firaol, imiwnoleg firaol ac ymyriadau newydd, brechlynnau (gan gynnwys datblygu brechlynnau sy'n seiliedig ar mRNA) a therapiwteg i reoli lledaeniad firaol, a/neu fireinio firysau at ddibenion therapiwtig. Bydd disgwyl i ddeiliaid y swydd ddatblygu cysylltiadau trawsbynciol er mwyn cydweithio ar draws themâu ymchwil perthnasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cynigion ymchwil cystadleuol a chynyddu adnoddau i gynnal ymchwil ym maes Firoleg. Amlygwyd bod angen cynorthwyo’r maes hwn, sy’n gryfder allweddol, drwy’r Uned newydd hon. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu'n weithredol tuag at gyflawni nodau ac amcanion y rôl hon.
Bydd y rhan fwyaf o amser yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei neilltuo ar gyfer ymchwil a datblygu gyrfa. Rydym yn rhagweld y bydd yn cyfrannu at yr Ysgol drwy addysgu a arweinir gan ymchwil – er enghraifft, arwain prosiectau myfyrwyr ar gyfer israddedigion, myfyrwyr MSc a myfyrwyr ar flwyddyn o hyfforddiant proffesiynol (PTY).
Bydd gan ddeiliad y swydd enw da cynyddol yn genedlaethol/rhyngwladol, hanes rhagorol o gyhoeddi gwaith o ansawdd uchel, yn ogystal â brwdfrydedd ac awydd i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella enw da'r Ysgol am ymchwil sy'n cael effaith ac ymgysylltu â'r gymuned. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos tystiolaeth o'i allu i gystadlu'n llwyddiannus am gyllid ymchwil, yn ogystal â’i allu i adeiladu tîm ymchwil sy'n cyd-fynd â’r disgwyliadau ar gyfer y swydd.
19609BR