Darpariaeth gwasanaethau meddygol cyffredinol gan weithwyr iechyd proffesiynol anfeddygol: adolygiad systematig, arolwg ac astudiaeth dulliau cymysg

Crynodeb diwedd y prosiect

Cefndir

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a gweddill y DU yn wynebu pwysau sylweddol oherwydd prinder staff ac adnoddau cyfyngedig.  Er mwyn helpu i leddfu'r pwysau ar y GIG, ateb posibl yw cynyddu'r nifer o ymgynghoriadau a gynhelir gan ymarferwyr gofal iechyd nad ydynt yn feddygon.  Mae'r rhain yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol anfeddygol (fel nyrsys, fferyllwyr a chymdeithion meddyg) a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (gan gynnwys therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion).  Gelwir y dull hwn yn 'amnewid rôl' ac mae'n cael ei ddefnyddio'n gynyddol mewn practisau meddygon teulu yng Nghymru.  Gwnaethpwyd gwaith yn ystod ysgoloriaeth ymchwil PhD a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i archwilio manteision, anfanteision a chanlyniadau amnewid rôl.

Dyma rai o'r prif negeseuon o'r ymchwil hwn:   

  • Bydd meddygon teulu bob amser yn parhau i fod yn rhan annatod o ofal sylfaenol, maent yn gweithredu fel canolbwynt y tîm amlddisgyblaethol ac mae eu hangen i gynnig eu barn fedrus a gwneud penderfyniadau terfynol mewn meysydd sy’n parhau i fod yn ansicr ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol anfeddygol a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol.  
  • Mae rhywfaint o dystiolaeth bod gofal a arweinir gan nyrsys yn gost-effeithiol, ond mae angen mwy o dystiolaeth am gost-effeithiolrwydd mathau eraill o weithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydynt yn rhai meddygol, sy'n ymwneud ag amnewid rôl, megis therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion. Bydd hyn yn sicrhau bod cyllid y GIG yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i gleifion.
  • Erbyn hyn mae yna lawer o wahanol fathau o ymarferwyr gofal iechyd yn gweithio mewn practisau cyffredinol ac weithiau gall hyn fod yn ddryslyd i gleifion.  Mae angen mwy o wybodaeth am yr holl wahanol fathau o rolau a gwasanaethau sydd ar gael.  Bydd hyn yn helpu cleifion i wneud dewisiadau gwybodus am eu gofal.   
  • Mae rolau sydd wedi'u diffinio'n glir, cyfathrebu da a gwaith tîm yn bwysig wrth ehangu rolau mewn ymarfer cyffredinol.   
  • Mae gan dderbynyddion sy'n cyflawni rôl llywio gofal rôl bwysig i'w chwarae yn y broses o amnewid rôl, maent yn aelodau staff pwysig sy'n darparu'r pwynt cyswllt cyntaf i gleifion sy'n mynychu eu practis meddyg teulu.  Mae mwy o wybodaeth am eu rôl a'r math o hyfforddiant y maent yn ei dderbyn yn bwysig i gleifion.

 

Wedi'i gwblhau
Research lead
Dr Julia Hiscock
Swm
£66,000
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2016
Dyddiad cau
30 Mawrth 2021
Gwobr
Health PhD Studentship Scheme
UKCRC Research Activity
Health and social care services research
Research activity sub-code
Research design and methodologies