nurse_reading_documents_wearing_a_face_make

Data SAIL yn helpu i ddatgelu sut y gwnaeth pandemig COVID-19 effeithio ar fynediad i ofal iechyd ledled Cymru

4 Gorffennaf

Mae ymchwil newydd sy'n defnyddio data o Fanc Data SAIL wedi rhoi dealltwriaeth newydd o ran sut y gwnaeth y pandemig rwystro mynediad i ofal iechyd ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor ledled Cymru. 

Mae Banc Data SAIL, sy'n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn caniatáu i ymchwilwyr gael mynediad diogel o bell i ddata hydredol o ansawdd uchel, gan gynnig potensial eithriadol i ganfod arwyddion cynnar o glefyd ledled poblogaeth.

Daw'r canfyddiadau newydd o set ddata newydd o'r enw 'SAIL long-term conditions e-cohort' ac maent yn olrhain sut roedd pobl â salwch cronig yn cael mynediad i ofal iechyd cyn (2017-2019) ac yn ystod y pandemig (2020-2022).

Creodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'r set ddata a wnaeth ddefnyddio cofnodion gofal iechyd dienw o dros 1.2 miliwn o drigolion Cymru â chyflyrau fel asthma a chlefyd y galon.

Dangosodd yr astudiaeth, a gafodd ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn International Journal of Population Data Science, fod ymweliadau â meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill wedi gostwng yn sydyn rhwng 2020 a 2022.

Roedd y gostyngiad hwn yn fwyaf amlwg yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac mewn trefi trefol gyda chefn gwlad llai poblog o’u hamgylch. Mewn rhai ardaloedd, gostyngodd nifer yr ymweliadau bron i 30% o'u cymharu â lefelau cyn y pandemig.

Fodd bynnag, dim ond gostyngiad bach mewn ymweliadau gofal eilaidd oedd i’w weld yn yr ardaloedd hyn, fel derbyniadau i'r ysbyty, sy'n awgrymu y gallai pobl fod wedi osgoi meddygon lleol a chael mynediad i ofal eilaidd yn uniongyrchol. 

Yn y cyfamser, trefi gwledig a’u hymylon mewn ardaloedd llai poblog a wynebodd y gostyngiad mwyaf o ran defnyddio gofal eilaidd.

Dywedodd y prif awdur Timothy Osborne, Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe: "Mae deall lle yr amharwyd fwyaf ar ofal iechyd yn ystod y pandemig yn helpu llunwyr polisi i dargedu adnoddau'n fwy effeithiol i gymunedau sydd â'r angen mwyaf, a pharatoi'n well ar gyfer argyfyngau iechyd yn y dyfodol. 

"Mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn awgrymu y dylai sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau gofal sylfaenol pan fo tarfu fod yn flaenoriaeth, yn enwedig i gymunedau difreintiedig lle mae'n ymddangos bod yr effaith wedi bod ar ei mwyaf."

Bydd y set ddata newydd yn parhau i gael ei defnyddio i ymchwilio ymhellach i'r rhesymau dros yr amrywiad yn y newidiadau o ran defnydd gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, gan lywio, o bosibl, ymyriadau wedi'u targedu’n fwy penodol i sicrhau gofal iechyd tecach.

Darllenwch yr erthygl lawn yma.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion ymchwil iechyd a gofal diweddaraf, tanysgrifiwch i dderbyn ein bwletin wythnosol.