People connections

Data'n gwneud gwahaniaeth: y banc data sy'n arwain y byd yn sail i ymchwil sy'n newid bywydau

Mae data ar raglenni sgrinio cenedlaethol, presgripsiynau, amseroedd aros, apwyntiadau a derbyniadau ysbyty yn cael eu defnyddio mewn ymchwil ledled Cymru i newid bywydau.

Mae Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn cadw toreth o ddata dienw a gasglwyd gan bobl yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf. Daw'r data hyn o faes iechyd a gofal cymdeithasol, cartrefi gofal, cofrestrau ac archwiliadau, gwasanaethau arbenigol ac arolygon, y gellir eu cysylltu'n ddienw i roi darlun clir o'r lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Defnyddiwyd data SAIL yn eang mewn ystod o astudiaethau ymchwil sy'n canolbwyntio ar iechyd a llesiant, gan gynnwys brechlynnau/triniaethau COVID-19, effaith llygredd aer, dementia, epilepsi, ffeibrosis systig ac asthma. Gellir eu defnyddio i astudio grwpiau o bobl â nodweddion neu gyflyrau penodol, megis menywod beichiog neu bobl dros 70 oed sy'n byw â dementia, gan alluogi cymariaethau rhwng grwpiau neu dros gyfnodau o amser.

Sefydlwyd Banc Data SAIL gan y Grŵp Gwybodeg Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn 2007 gyda chyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd yr Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL: “Crëwyd Banc Data SAIL i gydnabod y data enfawr, heb eu cyffwrdd, a gesglir ar unigolion yn rhan o’r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd bob dydd. Drwy sicrhau y gellir cysylltu’r casgliad data enfawr hwn a’i wneud yn ddefnyddiol mewn modd diogel, mae SAIL yn helpu ymchwilwyr i ateb cwestiynau pwysig na ellid ymdrin â nhw fel arall heb gost ac ymdrech fawr.

"Mae SAIL bellach yn cynnwys biliynau o gofnodion oddi wrth ryw pum miliwn a hanner o  bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym mor falch bod ei natur gynhwysfawr a’i nodweddion dadansoddol uwch yn golygu ei fod yn cael ei gydnabod yn eang fel un o'r cronfeydd data poblogaeth gorau yn y byd.

"Mae'n cwmpasu 100% o'r holl ddata cleifion a gesglir mewn ysbytai a lleoliadau gofal eilaidd yng Nghymru, ac 85% o'r data a gesglir mewn practisau cyffredinol gofal sylfaenol. Mae SAIL wedi cefnogi dros 1,300 o ymchwilwyr cymeradwy gan arwain at dros 500 o gyhoeddiadau ymchwil. Fe wnaeth ein hymdrechion wrth gefnogi ymateb COVID-19, 2020 y flwyddyn brysuraf i ni hyd yma; gan gefnogi ychydig dros 100 o brosiectau ymchwil cymeradwy."

Yma yng Nghymru, mae sefydliadau ac ymchwilwyr a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn defnyddio data SAIL mewn prosiectau ymchwil arloesol sy'n cwmpasu pob agwedd ar fywyd.

Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR), Canolfan PRIME Cymru, Canolfan Treialon Ymchwil, DECIPHer ac Uned Dreialon Abertawe yn rhai enghreifftiau o sut y mae ymchwilwyr yng Nghymru yn defnyddio data SAIL i wneud gwahaniaeth.

Llesiant ar gyfer mamau newydd

Mae ymchwilwyr yn yr NCPHWR yn defnyddio data SAIL yn yr astudiaeth Ganwyd yng Nghymru. Gofynnir i famau sy'n disgwyl a’u partneriaid lenwi holiadur ar-lein am eu hiechyd, eu llesiant a'u ffordd o fyw. Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau am gyflogaeth, profiadau o wasanaethau a gafwyd, iechyd a llesiant a gwybodaeth gefndirol arall megis oedran ac ethnigrwydd. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyfuno â data SAIL ar gofrestriadau geni, archwiliadau iechyd plant ac imiwneiddiadau, derbyniadau i ysbytai'r GIG a chofnodion meddygon teulu. Bydd y canfyddiadau'n rhoi tystiolaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a llunwyr polisi ar gefnogi teuluoedd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant. 

Iechyd meddwl gweithwyr gofal

Defnyddiwyd data SAIL gan ymchwilwyr yn y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd mewn astudiaeth i asesu iechyd 20,000 o staff gofal cartref yng Nghymru. Dadansoddodd yr astudiaeth hon haint COVID-19, iechyd meddwl a salwch arall gweithwyr gofal yr henoed neu bobl â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau yn eu cartrefi. Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata cysylltiedig o gofnodion iechyd ar raddfa'r boblogaeth a data gweithlu gofal cymdeithasol yn y cartref i lywio canlyniadau ynghylch arferion gwaith a chymorth ychwanegol i staff yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill y DU.

Profiad plant o iechyd meddwl

Roedd  data SAIL yn sail i astudiaeth a ddarganfu'r risg gynyddol y bydd plant yn datblygu salwch meddwl wrth fyw gyda rhywun â heriau iechyd meddwl. Dangosodd yr astudiaeth Adverse childhood experiences and child mental health: an electronic birth cohort study, dan arweiniad DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd, fod plant a oedd wedi tyfu i fyny yn byw gyda rhywun ag anawsterau iechyd meddwl, 63% yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl eu hunain. Defnyddiodd ymchwilwyr Fanc Data SAIL i ddadansoddi derbyniadau i'r ysbyty a chofnodion meddygon teulu a oedd yn olrhain 190,000 o blant sy'n byw yng Nghymru o'u genedigaeth hyd at 15 oed. Archwiliodd yr astudiaeth symptomau iechyd meddwl, diagnosisau a thriniaethau ac anhwylderau datblygiadol fel anableddau dysgu. Bydd y canfyddiadau hyn yn hysbysu llunwyr polisi wrth weithredu strategaethau cymorth ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghymru.

Diogelwch rhag yr haul yn ysgolion cynradd Cymru

Bydd data SAIL yn cael eu defnyddio mewn astudiaeth sy'n edrych ar bolisi diogelwch rhag yr haul yn ysgolion cynradd Cymru. Dan arweiniad Uned Dreialon Abertawe, nod yr astudiaeth yw deall sut mae ysgolion cynradd yng Nghymru yn ymateb i broblem gynyddol canser y croen. Bydd ymchwilwyr yn defnyddio data SAIL i ddadansoddi nifer yr achosion o losgi haul difrifol ymhlith plant ac yn archwilio a oes gan ysgolion bolisi amddiffyn rhag yr haul ar waith, y ffactorau a allai ddylanwadu ar hyn, beth yw ffurf y polisïau hyn ac a ydynt yn effeithio ar ymwybyddiaeth, gwybodaeth ac ymddygiad plant, staff a rheolwyr ysgol. Byddant yn defnyddio canfyddiadau'r astudiaeth i gyd-lunio canllawiau ar gyfer ysgolion.

Galwadau 999 mynych

Bydd astudiaeth gan Ganolfan PRIME Cymru (STRETCHED), yn defnyddio data SAIL i asesu sut i ymateb i nifer bach o bobl sy'n ffonio 999 yn fynych ac yn aml heb fod angen triniaeth frys arnynt. Gall y bobl hyn fod yn agored i niwed ac maent yn ffonio 999 gan nad yw'r gwasanaethau sydd ar gael yn diwallu eu hanghenion cymhleth. Mae rhai gwasanaethau ambiwlans wedi cyflwyno proses rheoli achosion, sy'n cynnwys cyfeirio galwyr mynych at wahanol wasanaethau megis gwasanaethau cymdeithasol, meddygon teulu neu wasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Gan ddefnyddio data SAIL, bydd ymchwilwyr yn gweld a oes gan alwyr mynych lai o gyfnodau brys pan fydd y broses rheoli achosion ar gael, asesu diogelwch y dull hwn a phennu costau ac arbedion cysylltiedig.

I gael rhagor o wybodaeth am Fanc Data SAIL cliciwch yma.