Datblygu cyfieithiadau Cymraeg o ganlyniadau ymchwil
Mae'r Ganolfan Gwerthuso Gofal Iechyd, Asesu Dyfeisiau ac Ymchwil (CEDAR) yn gweithiosy'n ymroddedig i'r Rhaglen Gwerth mewn Iechyd (ViH) Cenedlaethol . Mae Gwerth mewn Iechyd yn rhaglen genedlaethol o waith sy'n ymdrechu i gyflawni dull Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth ledled GIG Cymru i gefnogi egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus.
Mae Cedar yn cefnogi rhaglen ViH trwy ddarparu gallu dadansoddol a gwerthuso, cynghori ar ddethol, defnyddio a gweinyddu PROMs, a chefnogi cynhyrchu allbynnau ac adroddiadau ar gyfer cyflwyniadau, cynadleddau a chyhoeddiadau. Mae ein rôl yn gofyn i ni gydweithredu ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys cleifion, clinigwyr, a chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau lleol a chenedlaethol.
Ar hyn o bryd mae CEDAR yn chwilio am siaradwyr Cymraeg gyda chyflyrau iechyd amrywiol i helpu gyda'r gwaith hwn. Os ydych yn siaradwr Cymraeg ac yn dymuno cymryd rhan neu ddysgu mwy am y gwaith hwn, darllenwch y daflen wybodaeth a llenwch y ffurflen fer ar-lein.
Drwy lenwi'r ffurflen, bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata ddiogel ac efallai y byddwch yn cysylltu â chi i helpu yn y dyfodol.