Datblygu gweithgareddau mewn dau faes newydd sy'n ymwneud ag ymchwil tiwmorau'r ymennydd

Prif Negeseuon

O fewn y dyfarniad amser ymchwil clinigol hwn, cynhaliais weithgaredd ymchwil ym maes niwro-oncoleg (trin cleifion â thiwmorau'r ymennydd).  Tiwmorau'r ymennydd a'r system nerfol ganolog yw'r trydydd ar ddeg achos mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, ond y degfed achos mwyaf cyffredin o farwolaeth canser. Yng Nghymru, mae'r gymhareb marwolaethau:nifer yr achosion yn uchel (65.2%), gan adlewyrchu canlyniadau gwael yn gyffredinol ac mae nifer yr achosion yn cynyddu (Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Canser yng Nghymru, 2016). 

Mae angen brys i wella goroesiad ac ansawdd bywyd cleifion sy'n byw gyda thiwmorau ar yr ymennydd a chyfyngu ar y morbidrwydd sy’n deillio o’r driniaeth. Nod y gwaith a wnaed o fewn y dyfarniad amser ymchwil clinigol hwn oedd adeiladu ar y cysylltiadau academaidd presennol rhwng Canolfan Ganser Felindre a Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd trwy ddatblygu ymchwil radiotherapi niwro-oncoleg sy'n berthnasol yn glinigol ac sy'n canolbwyntio ar y claf, a hefyd gweithio gyda thimau niwro-oncoleg cenedlaethol i ddatblygu treialon clinigol newydd tiwmor yr ymennydd sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau pwysig hyn.  

Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd o fewn yr amser ymchwil clinigol hwn yn cynnwys tri phrif faes:  

  • Mesur newidiadau yn llif gwaed tiwmor gan ddefnyddio MRI mewn cleifion oedd â thiwmorau sylfaenol yr ymennydd. 
  • Gwnaethom gais am grant ariannu ac fe lwyddon ni yn hynny, mewn cydweithrediad â Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, i gynnal astudiaeth sy'n mesur newidiadau metabolaidd mewn llif gwaed a lefelau ocsigen o fewn tiwmorau'r ymennydd gan ddefnyddio sganiau MRI mewn cleifion oedd â thiwmorau ymennydd sylfaenol. Mae'r astudiaeth hon yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddi recriwtio cleifion ar ddiwedd 2022 a gobeithiwn y bydd yr astudiaeth hon yn darparu dealltwriaeth newydd bwysig o fetaboledd tiwmor yr ymennydd a’r ymateb i therapi. 
  • Datblygu ymchwil radiotherapi pelydrau proton mewn cleifion sydd â thiwmorau’r ymennydd. 
  • Gweithiais fel rhan o dîm cydweithredol cenedlaethol yn datblygu ail dreial clinigol cenedlaethol y DU sy'n cymharu therapi pelydrau proton gyda radiotherapi ffoton. Mae'r treial hwn yn cael ei arwain gan Ganolfan Ganser Leeds mewn cydweithrediad â Chanolfan Ganser Felindre, mae'n cael ei ariannu drwy'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ac mae disgwyl iddo agor i recriwtio yn gynnar yn 2023.  
  • Daeth gwaith ymchwil cysylltiedig â COVID-19 hefyd yn ffocws pwysig yn ystod cyfnod y dyfarniad hwn ac roeddwn yn brif ymchwilydd ar gyfer nifer o dreialon clinigol cenedlaethol COVID-19 o fewn Canolfan Ganser Felindre. 
Wedi'i gwblhau
Research lead
Dr James Powell
Swm
£87,522
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Gorffennaf 2019
Dyddiad cau
30 Mehefin 2022
Gwobr
NHS Research Time Award
Cyfeirnod y Prosiect
CRTA-18-23