Researcher in lab

Datganiad ar adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol

25 Chwefror

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a phrif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar ymchwil iechyd a gofal: “Rydym yn sicr yn croesawu’r ymdrechion a wnaed gan Aelodau trawsbleidiol o’r Senedd i lunio’r adroddiad hwn sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil glinigol o fewn system ehangach iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae’r pandemig wedi dangos yn glir fod ymchwil yn gwbl allweddol i ddod o hyd i driniaethau ac ysgogi gwelliannau mewn gofal, a’n bwriad ni yw sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu cydweithio ac arloesedd y 12 mis diwethaf i ysgogi agenda ehangach iechyd a gofal yng Nghymru.

“Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru rydym yn bwriadu gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’n hadnoddau ac i sicrhau bod Cymru’n ymgysylltu gymaint â phosibl â chynlluniau cyllido ymchwil rhyngwladol ac yn y DU. Rydym hefyd yn cynnal ein cynlluniau cyllid ein hunain, ac yn cymryd rhan mewn cynlluniau partneriaeth a thraws-gyllido ag eraill yn rhan o’n hymdrechion i ysgogi ymchwil yng Nghymru sy’n cael effaith.

“Rydym yn gwybod bod llawer mwy i’w wneud ac rydym yn gweithio i sicrhau bod buddsoddiadau mewn ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru yn galluogi mwy o gleifion ledled Cymru i gael mynediad at ymchwil a threialon clinigol, a bod ymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion, eu teuluoedd a’u cymunedau. Pwyslais penodol i ni fydd gwella trefniadau trosglwyddo gwybodaeth rhwng ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisi, yn ogystal â sicrhau bod llwybrau gyrfa cynaliadwy a boddhaus i ymchwilwyr, academyddion clinigol a chlinigwyr sy’n ymwneud ag ymchwil.”