Nyrs yn siarad â hen fenyw

Dathlu ail ben-blwydd y treial PANORAMIC

22 Rhagfyr

Mae'r wythnos hon yn nodi dwy flynedd ers dechrau’r treial arloesol, PANORAMIC, astudiaeth glinigol ledled y DU i ddod o hyd i driniaethau gwrthfeirol newydd ar gyfer COVID-19 a lleihau'r angen i dderbyn pobl i'r ysbyty.

Mae bron i 1,800 o gyfranogwyr o Gymru wedi eu recriwtio i'r astudiaeth hyd yma, sy'n cael ei harwain gan Brifysgol Rhydychen a’i chyflawni yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd,

Gyda chyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal, PANORAMIC (Treial llwyfan addasol o feddyginiaethau gwrthfeirol newydd ar gyfer trin COVID-19 yn gynnar yn y gymuned) yw'r treial clinigol cyntaf o'i fath, ac mae'n parhau i recriwtio gwirfoddolwyr i dreialu cyffuriau gwrthfeirol newydd.

Mae'r risg o gymhlethdodau yn sgil COVID-19 yn cynyddu mewn pobl â chyflyrau iechyd sylfaenol, pobl hŷn, pobl heb eu brechu, a'r rhai y mae'r brechlyn yn llai effeithiol ynddynt. Gall COVID-19 weithiau arwain at broblemau meddygol sylweddol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaeth, yn enwedig yn y bobl hyn. Ar hyn o bryd, mae pobl sy'n agored i niwed yn glinigol yn cael triniaethau gwrthfeirol i'w helpu i wella'n gyflymach.

Mae'r treial yn galw ar unrhyw un sy'n 50 oed neu'n hŷn, neu'n 18 oed neu'n hŷn sydd â chyflwr RHESTREDIG sy'n bodoli eisoes, i gofrestru ar gyfer y treial os oes ganddynt symptomau COVID-19 parhaus ac wedi cofnodi prawf COVID positif.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rwy'n falch o'r ffordd y mae Cymru'n parhau i wneud cyfraniad sylweddol i'r treial PANORAMIC ers dechrau recriwtio dwy flynedd yn ôl ac mae timau a chyfranogwyr ymchwil Cymru wedi bod - ac yn parhau i fod - yn allweddol i lwyddiant yr astudiaeth hon ledled y DU. Hoffwn annog unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd i fynegi eu diddordeb drwy wefan PANORAMIC ac annog eraill i wneud hynny hefyd.

Mae'r treial PANORAMIC yn recriwtio cyfranogwyr o bob rhan o Gymru ar hyn o bryd - am fwy o wybodaeth ac i ddarllen yr erthyglau ar PANORAMIC, ewch i'r wefan yma.