Lynette Lane

Dathlu Arfer Clinigol Da: myfyrio ar ddegawd o hyfforddi yng Nghymru

Ym mis Tachwedd 2020, cafodd Lynette Lane, Uwch Reolwr Hyfforddi a Datblygu'r Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi, ei chydnabod gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) am 10 mlynedd o hwyluso hyfforddiant Arfer Clinigol Da yng Nghymru.

Mae Arfer Clinigol Da yn safon ansawdd moesegol a gwyddonol rhyngwladol ar gyfer pob Treial Clinigol o Gynhyrchion Meddyginiaeth Ymchwiliol. Mae’r rhain yn dreialon clinigol sy’n profi meddyginiaethau a thriniaethau newydd, fel brechlynnau, ar y cyhoedd.

Pan fydd treial clinigol yn cydymffurfio ag Arfer Clinigol Da, mae hawliau’r bobl sy’n cymryd rhan wedi’u diogelu ac mae canlyniadau’r astudiaeth yn gredadwy. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol bod unrhyw staff ymchwil sy’n rhan o Dreialon Clinigol o Gynnyrch Meddyginiaeth Ymchwiliol wedi dilyn hyfforddiant Arfer Clinigol Da.

I Lynette, mae’r blynyddoedd wedi hedfan.

“Wrth edrych yn ôl, fe basiodd y ddeng mlynedd yn gyflym iawn. Rwyf wedi hyfforddi miloedd o staff yn y cyfnod hwnnw,” dywedodd Lynette.

Dechreuodd Lynette ei swydd fel Hwylusydd Hyfforddiant ym mis Medi 2009. Ar y pryd roedd hyfforddiant Arfer Clinigol Da yn cael ei gyflenwi gan hyfforddwyr masnachol allanol yn bennaf a dim ond ychydig o’r hyfforddwyr drud ond hanfodol hynny oedd ar gael yn y DU.

I fynd i’r afael â’r sefyllfa hon, fe wnaeth tîm hyfforddi Rhwydwaith Ymchwil Glinigol NIHR greu’r Rhaglen Datblygu Hwyluswyr, gyda’r bwriad o roi’r sgiliau angenrheidiol i fwy o bobl ledled y DU er mwyn hyfforddi ymchwilwyr iechyd ym maes Arfer Clinigol Da.

Dywedodd Lynette: “Yn ffodus, cafodd rhai ohonom o Gymru le ar raglen gyntaf NIHR. Roedd hi’n bwrw eira ar y diwrnod o Chwefror pen wnes i ddal y trên i Wakefield i ddechrau’r hyfforddiant. Roedd yn gwrs helaeth dros nifer o ddiwrnodau a rhoddwyd llawer o adnoddau, arweiniad a chymorth i ni i gyd.”

Yn fuan ar ôl iddynt gwblhau rhaglen NIHR, fe wnaeth Lynette a’i chyd-weithwraig, Hayley Tapping o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddechrau cynllunio’r sesiwn hyfforddi cyflwyniad i Arfer Clinigol Da gyntaf yng Nghymru. Fe wnaethon nhw wahodd grŵp o gynrychiolwyr i Westy Blanco’s ym Mhort Talbot. Felly sut oedd Lynette yn teimlo yn cyflwyno’r sesiwn gyntaf honno?

“Roeddwn i’n ofnus iawn! Roeddwn i’n paratoi i gyflwyno’r hyfforddiant hwn i fy nghydweithwyr ac roeddwn yn ofni y byddwn i’n gwneud camgymeriad,” dywedodd Lynette. “Yn ffodus, fe aeth yn dda iawn. Defnyddiais lawer o adrenalin yn ei wneud ond roedd yn werth chweil!”

I Lynette a’r tîm, dyna oedd y dechrau. Yn gweithio’n agos gyda thîm hyfforddi Rhwydwaith Ymchwil Glinigol NIHR, fe wnaethon nhw addasu’r Rhaglen Datblygu Hwyluswyr ar gyfer Cymru. Mae’r tîm wedi bod yn cynnig yr hyfforddiant hwn i hwyluswyr newydd ers hynny, sy’n golygu bod mwy o hyfforddwyr Arfer Clinigol Da ar gael yn lleol ledled Cymru.

Dywedodd Lynette: “Rwyf wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd. Sut i drin llond ystafell o fy nghydweithwyr a sut i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau rheoleiddiol a llywodraethu.

“Rydym ni wedi cyrraedd lleoliadau ac ystafelloedd sydd wedi bod ar glo. Mae problemau wedi bod gyda chludo neu pan nad yw’r adnoddau ar gyfer y cynrychiolwyr wedi’u dosbarthu i’r lleoliad mewn pryd. Ambell waith mae pobl yn dod i’r hyfforddiant yn credu eu bod nhw’n gwybod popeth yn barod. Ymhob sesiwn, mae gennych ‘y siaradwyr’ a’r bobl ‘dydw i ddim yn mynd i ymuno i mewn’ hynny. Fel hwylusydd, eich tasg chi yw cyrraedd pawb a rhoi profiad dysgu da iddyn nhw, waeth pa mor hir nac ym mha swydd y maen nhw wedi bod yn gweithio ynddi ym maes ymchwil.

“Ond bob tro erbyn y diwedd, mae’r sesiynau hyfforddi yn bleser. I gael eich diolch gan bobl neu i gael cymeradwyaeth annisgwyl. Yr adegau hynny sy’n gwneud y gwaith caled werth yr amser. Rwyf wrth fy modd â’r her a’r amrywiaeth. Mae’n wych i fod yn rhannu gwybodaeth a phrofiad.”

Yn ogystal â chynyddu hyfforddiant wyneb yn wyneb ledled Cymru, mae hyfforddiant Arfer Clinigol Da hefyd ar gael ar-lein, ac mae rhagor o gynlluniau am hyfforddiant drwy webinarau. Roedd hyn yn arbennig o bwysig yn 2020 oherwydd y pwyslais oedd hyfforddi ymchwilwyr oedd yn gweithio ar astudiaethau COVID-19. Hyd yn hyn, mae’r tîm wedi cyflenwi 264 o gyrsiau hyfforddiant Arfer Clinigol Da ac wedi hyfforddi 4,921 o gynrychiolwyr. Rhwng 2015 a 2020, fe wnaeth 97% o gynrychiolwyr ddweud bod yr hyfforddiant yn dda neu’n wych.

Dywedodd Lynette: “Rwy’n hynod o falch o’r ffordd yr ydym ni wedi lansio hyfforddiant Arfer Clinigol Da yng Nghymru a’r ffordd y mae wedi tyfu yn y cyfnod hwn. Mae’r galw am hwn a hyfforddiant arall wedi tyfu’n sylweddol wrth i ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru dyfu. Roedd hi’n braf iawn cael fy nghydnabod gan NIHR am fy neng mlynedd fel hwylusydd Arfer Clinigol Da. Rwy’n falch iawn o hynny hefyd.”

Os ydych chi’n gweithio ym maes ymchwil, mae mwy yma am ein hyfforddiant