Picture from Shared Commitment to Public Involvement – committing to change workshop, 24 April 2023.

Dathlu blwyddyn o PIRIT

7 Chwefror

Mae Pecyn Cynnwys y Cyhoedd mewn Effaith Ymchwil (PIRIT) yn nodi blwyddyn ers ei lansio yng Nghynhadledd.  Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r pecyn cymorth nid yn unig wedi trawsnewid y ffordd y mae ymchwilwyr yn mynd i’r afael â chynllunio a gwerthuso sut mae’r cyhoedd yn cael eu cynnwys trwy ei ddull pragmatig, mae hefyd yn esiampl o gydweithio yn y gymuned ymchwil.

Nod yr adnodd rhad ac am ddim hwn a gynhyrchwyd ar y cyd yw helpu ymchwilwyr sy’n gweithio gyda’r cyhoedd i gynllunio sut i ymwneud ag ymchwil mewn modd ystyrlon, ochr yn ochr â helpu i olrhain a dangos y gwahaniaeth mae hynny’n ei wneud. Drwy gydol 2023, mae tîm PIRIT wedi canolbwyntio ar ymdrechion penodol i ymgysylltu, gan gyflwyno a thrafod gyda chynulleidfaoedd amrywiol trwy gyfrwng cynadleddau, cyflwyniadau, gweithdai, a digwyddiadau hyfforddi. Llwyddodd y gweithgareddau i gryfhau perthnasoedd sy’n bodoli eisoes yn ogystal â chreu rhai newydd gyda’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Mae arianwyr a rheoleiddwyr ymchwil, gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), a’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, wedi cymeradwyo a hyrwyddo’r gwaith o ledaenu’r pecyn cymorth, gan gynnal gweminarau a gweithdai PIRIT, a’u cynnwys mewn blogiau, tudalennau adnoddau a mwy. Yn fwyaf nodedig, mae arianwyr ymchwil Marie Curie ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymgorffori PIRIT yn eu canllawiau ar gyfer gwneud cais am grant. 

Dywedodd Peter Gee, Uwch-reolwr Cynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

“Mae PIRIT yn hynod ddefnyddiol i ni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’n rhan o’n canllawiau i ymchwilwyr wrth wneud cais am gyllid ac mae’n gwneud yn siŵr bod cynnwys y cyhoedd yn rhan o bopeth a wnawn. Gall aelodau’r cyhoedd ac ymchwilwyr ei ddefnyddio’n rhwydd ac rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o adborth ar sut mae wedi gweithio’n ymarferol, gan lywio ymchwil sy’n newid bywydau.”

Mae PIRIT yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr PhD unigol a thimau ymchwil mawr fel ei gilydd. Mae'r pecyn cymorth hefyd wedi gwneud ei farc ar sawl astudiaeth, gan gynnwys astudiaeth COBra a'r astudiaeth SERENITY.

Mae datblygiadau cyffrous o’n blaenau ar gyfer PIRIT, a bydd papur yn cael ei gyhoeddi am ei ddatblygiad a’i werthusiad. Mae’r map ffordd hefyd yn cynnwys cynllun ar gyfer lledaenu a gweithredu, yn ogystal â’r posibilrwydd o chwilio am gyllid ar gyfer gwerthusiad ehangach. Er mwyn ateb y galw cynyddol gan unigolion a sefydliadau am arddangosiadau PIRIT, bydd fideo o daith y pecyn cymorth a dogfen cwestiynau cyffredin yn cael eu hychwanegu at y dudalen ar y we.

Am fwy o wybodaeth am gyflawniadau'r pecyn cymorth PIRIT, ewch i wefan Canolfan Ymchwil Canser Cymru.