Award winners recieving award on stage

Dathlu eich cyflawniadau – gwnewch gais nawr ar gyfer Gwobrau Arloesi MediWales

12 Medi

Gwnewch gais nawr am gyfle i ennill Gwobr Partneriaeth â Diwydiant - Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yn y Gwobrau Arloesi MediWales blynyddol ar 5 Rhagfyr 2024.

Mae'r wobr hon ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, clinigwyr neu fyrddau iechyd yng Nghymru sydd wedi partneru â diwydiant i gyflawni prosiect neu ddatblygu cydweithrediad gyda phwyslais penodol ar ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol. Dylai prosiectau fod ag effaith gadarnhaol ar iechyd, lles a ffyniant pobl Cymru.

Rhennir Gwobrau Arloesi MediWales yn ddau gategori; gwobrau diwydiant a gwobrau iechyd. Dim ond cwmnïau o Gymru, neu gwmnïau sydd ag ôl troed yng Nghymru sy'n gymwys i wneud cais am wobrau'r diwydiant.

Dim ond byrddau iechyd neu gwmnïau o Gymru sy'n cydweithio â bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n gymwys i wneud cais am y gwobrau iechyd. Rhaid i bob cais am y gwobrau iechyd ddod gan y gweithwyr iechyd proffesiynol, clinigwyr, y bwrdd iechyd y mae'r cwmni wedi cydweithio gyda nhw.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o wobrau ar draws sectorau diwydiant ac iechyd:

Gwobrau Diwydiant 2024

  • Arloesedd
  • Cychwyn
  • Partneriaeth gyda'r GIG
  • Allforio
  • Cyflawniadau rhagorol

 

Gwobrau Iechyd 2024

  • GIG Cymru yn gweithio gyda Diwydiant
  • Effaith Technoleg a Digidol
  • Cyflwyno Arloesedd a Thrawsnewid ar Raddfa Fwy
  • Arloesedd Gofal Cymdeithasol trwy Gydweithio
  • Partneriaeth â Diwydiant - Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Tîm dan arweiniad yr Athro Alan Parker, Pennaeth Adran Canser Solet yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd oedd enillwyr Gwobr y Bartneriaeth â Diwydiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol y llynedd. Gwnaethon nhw ystyried a allai technoleg, o'r enw UltraVision ddal gronynnau o COVID-19 a firysau eraill yn ystod llawdriniaeth a'u gwneud yn ddiogel gan leihau'r risg o haint i gleifion.

Meddai'r Athro Parker: "Mae hon wedi bod yn enghraifft wych o sut y gall ymchwil gael effeithiau cadarnhaol ehangach nag a fwriadwyd yn wreiddiol.

“Mae gweithio gyda'n partner yn y diwydiant wedi ein galluogi i gymryd technoleg a gynlluniwyd yn wreiddiol i gynyddu maes golwg llawfeddyg yn ystod llawdriniaeth, a'i ddefnyddio i barhau â gwaith achub bywyd, hyd yn oed yn wyneb pandemig byd-eang.”

I ymgeisio mewn categori gwobr gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, anfonwch e-bost at Bethan Davies yn MediWales i ofyn am ffurflen gais am Wobr Partneriaeth â Diwydiant - Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gallwch hefyd gysylltu â Bethan am wybodaeth am sut i wneud cais am unrhyw un o'r gwobrau eraill.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Hydref 2024.