Y Wobr am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil

Dathlu gwaith Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd ledled Cymru

5 Gorffennaf

Mae Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru yn gyfle i gydnabod a dathlu gwaith pwysig ac arloesol gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o noddi'r Wobr am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil.

Mae'r wobr hon yn dathlu llwyddiannau unigolyn neu dîm sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gyflawni ymchwil. Mae enillydd y wobr yn esiampl i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd sy'n dangos arweiniad wrth ddarparu ymchwil ledled Cymru. Gall y wobr hon naill ai gael ei hunan-enwebu neu gallwch enwebu rhywun arall.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cais ar gyfer y gwobrau yw 10 Medi a bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ddydd Gwener 26 Tachwedd yn dilyn Cynhadledd 'Cymru Gyfan': Cymru Iachach: Symud ymlaen gyda'n gilydd.

Croesewir ceisiadau ar gyfer pob un o’r wyth categori, chwech ohonynt ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd cymwysedig, un ar gyfer myfyrwyr ac un ar gyfer gweithwyr cymorth.

Gwobrau sy'n agored i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd cymwysedig

Categori 1.

Y Wobr am Ffyrdd Newydd o Weithio

Noddir gan Lywodraeth Cymru, Is-adran y Rhaglen Drawsnewid

Categori 2.

Y Wobr am Arweinyddiaeth a Rheoli Newid

Noddir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Categori 3.

Y Wobr am Wella Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

Noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Categori 4.

Y Wobr am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil

Noddir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Categori 5.

Y Wobr am Ragoriaeth mewn Adsefydlu

Noddir gan Attend Anywhere

Categori 6.

Y Wobr am Arloesedd Digidol a Thechnoleg

Noddwr i'w gadarnhau

Mae’r wobr ar agor i staff cymorth, swyddogion cyswllt a phrentisiaid sy'n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd

Categori 7.

Y Wobr am Gyflawniad Eithriadol gan Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd neu Brentis, Gweithiwr Cymorth, Cynorthwy-ydd neu Gydymaith Gwyddor Gofal Iechyd

Noddir gan Lywodraeth Cymru

Y wobr ar agor i fyfyrwyr gwyddor gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd

Categori 8.

Y Wobr am Brosiect Myfyrwyr Rhagorol sy'n Helpu Cymru i Symud Ymlaen Gyda'n Gilydd

Noddir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Bydd gwobr Enillydd Cyffredinol hefyd a fydd yn cael ei dewis gan y beirniaid o enillwyr categorïau 1 – 7.