Aelod o staff ysbyty'n siarad â chlaf

Yn dathlu gwaith Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd ledled Cymru

15 Awst

Ar gau i gael cyflwyniadau

Mae Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd (AHA) Cymru yn gyfle i gydnabod a dathlu gwaith pwysig ac arloesol gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru. 

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n falch o noddi’r Wobr ar gyfer Cyfraniad Eithriadol at Gyflenwi Ymchwil. 

Mae’r wobr hon yn dathlu cyflawniadau unigolyn neu dîm sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at gyflenwi ymchwil. Mae enillydd y wobr yn fodel rôl ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd sy’n dangos arweinyddiaeth mewn cyflenwi ymchwil ledled Cymru. Gall pobl enwebu eu hunain neu enwebu cydweithiwr neu aelod o’u tîm ar gyfer y wobr hon. 

28 Medi ydy’r dyddiad cau i gyflwyno’ch cynnig ar gyfer y gwobrau a chynhelir cinio’r seremoni wobrwyo ar 18 Tachwedd yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd. 

Mae croeso i gynigion ar gyfer pob un o’r naw categori, chwech ohonyn nhw ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae’r meini prawf llawn ar gyfer pob gwobr, sy’n cefnogi’r wybodaeth y mae angen ei chynnwys yn natganiad y cynnig, i’w gweld yn y ddalen wybodaeth

Gwobrau ar agor i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd cymwysedig 

Categori 1. Y Wobr ar gyfer Ffyrdd Newydd o Weithio  

Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru, Is-adran y Rhaglen Trawsnewid  

Categori 2. Y Wobr ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheoli Newid yn Dosturiol  

Wedi’i noddi gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru  

Categori 3. Y Wobr ar gyfer Gwella Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd  

Categori 4. Y Wobr ar gyfer Cyfraniad Eithriadol at Gyflenwi Ymchwil 

Wedi’i noddi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru  

Categori 5. Y Wobr ar gyfer Rhagoriaeth mewn Adsefydlu  

Categori 6. Y Wobr ar gyfer Arloesedd Digidol a Thechnolegol  

Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru  

Gwobr ar agor i staff cymorth, cymdeithion a phrentisiaid sy’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd  

Categori 7. Y Wobr ar gyfer Cyflawniad Rhagorol gan Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd neu Brentis, Gweithiwr Cymorth, Cynorthwyydd neu Gydymaith Gwyddor Gofal Iechyd  

Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru  

Gwobr ar agor i wyddonwyr gofal iechyd  

Categori 8. Gwyddonydd Gofal Iechyd y Flwyddyn  

Wedi’i noddi gan Bwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru  

Gwobr ar agor i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd  

Categori 9. Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd y Flwyddyn  

Wedi'i noddi gan Bwyllgor Cymru ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd 

AHA Cymru 2022