Cynhadledd Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 2023

Dathlu'r gymuned ymchwil yng nghynhadledd Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 2023

22 Tachwedd

Daeth dros 200 o gynrychiolwyr o bob rhan o'r GIG, diwydiant, y byd academaidd a'r trydydd sector at ei gilydd i ddathlu ymchwil yng Nghynhadledd Ymchwil a Datblygu flynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yr wythnos hon.

Clywodd y rhai hynny a oedd yn bresennol gan amrywiaeth o siaradwyr yn y digwyddiad, a agorwyd gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu Cwm Taf, yr Athro John Geen, ac roedd yn cynnwys prif anerchiad gan yr Athro Dean Harris, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Yn y gynhadledd, a gynhaliwyd yng ngwesty’r Vale yn Hensol, gwelwyd arweinwyr ymchwil yn ymdrin â phynciau fel cysylltiadau cymdeithasol plant a phobl ifanc yn ystod gofal iechyd meddwl cleifion mewnol; effeithiolrwydd technoleg realiti rhithwir a hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar wrth hyrwyddo lles emosiynol ymhlith staff y GIG, ac a yw ffactorau genetig yn pennu'r ymateb i amnewid hormonau thyroid, i enwi ond ychydig.

Professor John Geen

Wrth agor y gynhadledd, dywedodd yr Athro Geen: "Mae'r digwyddiad blynyddol hwn bob amser yn bwysig iawn i'n Bwrdd Iechyd a'n partneriaid ymchwil. Mae'n ddiwrnod i dynnu sylw at sut mae ymchwil yn allweddol i gyflawni gwasanaethau clinigol o ansawdd uchel a gofal cleifion, datblygiad staff a hysbysu newid yn seiliedig ar dystiolaeth ym maes gofal iechyd.

"Drwy ddod â phartneriaid at ei gilydd; ar draws diwydiant, y byd academaidd, y trydydd sector a'r GIG, mae'n creu cyfle i drafod syniadau a'u datblygu hyd nes y byddant yn dwyn ffrwyth, gan gael effaith sydd o fudd i’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu."

Ychwanegodd Laura Fleetwood, Seicolegydd Cynorthwyol yng Nghwm Taf a siaradodd yn y digwyddiad: "Mae wedi bod yn bleserus iawn - rwy'n credu bod yr ystod o ymchwil yr ydym wedi'i weld o lawer o wahanol feysydd wedi bod yn ddiddorol iawn; o feddwl am sut mae'n effeithio ar wahanol feysydd gwasanaeth, am ba effaith mae hynny'n ei chael ar ymchwil yn y dyfodol, rwy'n credu y gall pawb gymryd rhan ynddo - sy'n agwedd braf iawn ar y diwrnod."