Alisha Davies

Dr Alisha Davies

Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso

Mae’r Athro Alisha Davies yn Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus a Phennaeth Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Alisha yn arwain Is-adran Ymchwil a Gwerthuso amlddisgyblaeth, yn cyflawni rhaglenni mewnblanedig sy’n mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth ym maes polisi ac arfer iechyd cyhoeddus. Mae meysydd ymchwil cyfredol, wedi’u cefnogi trwy incwm mewnol a grantiau ymchwil gyda phartneriaid academaidd, yn rhychwantu effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19, penderfynyddion iechyd ehangach, cymunedau a chydnerthedd, ac allgáu digidol. Mae hi hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth.

Mae Alisha yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer strategaeth ymchwil a gwerthuso’r sefydliad, gan gefnogi datblygu ymchwil a’i chyflenwi ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae’n aelod o Bwyllgor Blaenoriaethu Ymchwil Iechyd Cyhoeddus y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.

Sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cysylltwch â Alisha

E-bost

Twitter