Banc Data SAIL yn derbyn Gwobr Pen-blwydd y Frenhines

Cyflawniad penigamp i Gronfa Ddata SAIL, wrth i Wobr Pen-blwydd y Frenhines gael ei rhoi mewn Derbyniad Brenhinol

23 Chwefror

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod harneisio data cyhoeddus i wella iechyd a lles y boblogaeth drwy ei Gronfa Ddata SAIL byd-enwog, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Cyflwynwyd y Wobr i Ganghellor Prifysgol Abertawe, y Fonesig Jean Thomas, yr Is-ganghellor yr Athro Paul Boyle a’r Athro Ronan Lyons gan y Frenhines Camilla a Duges Caerloyw mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mhalas Buckingham ar 22 Chwefror 2024.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwyddonwyr data bellach yn gallu cynnal ymchwil gadarn gan ddefnyddio data cynhwysfawr SAIL am ddata poblogaeth Cymru a'r DU. Yn eistedd o fewn Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol, mae cronfa ddata SAIL - sef “Secure Anonymised Information Linkage” a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol - yn dwyn ynghyd, cysylltu, a dadansoddi data o sawl ffynhonnell i ddarparu mewnwelediadau lefel poblogaeth ar gyfer y llywodraeth a llunwyr polisi. 

Dyfarnwyd y Gwobrau am y tro cyntaf yn 1994, caiff y Gwobrau eu dyfarnu bob dwy flynedd ac maent yn cydnabod gwaith rhagorol gan golegau a phrifysgolion y DU sy’n dangos rhagoriaeth ac arloesedd ac yn darparu budd gwirioneddol i’r byd ehangach.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Yr Athro Kieran Walshe: "Ar ran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rwy'n falch iawn bod gwaith tîm SAIL wedi cael ei gydnabod drwy'r wobr bwysig hon.  Mae Banc Data SAIL wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'i sefydliadau rhagflaenol ers 2006, ac rydym yn falch o allu darparu cefnogaeth a phartneriaeth barhaus er budd ymchwilwyr ledled y DU."

Yn y 15 mlynedd ers sefydlu SAIL mae ei gyflawniadau'n cynnwys:

  • Darparu ymchwil Covid-19 eang a gwybodaeth polisi sy'n cael ei gyrru gan ddata ar gyfer llywodraethau Cymru a'r DU;
  • Perfformio fel y system cysylltu data a mynediad cenedlaethol ar gyfer yr holl ddata cyhoeddus yng Nghymru, gan guradu data diogel o bob sector a mwy na 500 o sefydliadau;
  • Darparu gwasanaethau cysylltu data a bancio ar gyfer llawer o fentrau byd-eang, gan gynnwys data a rennir o dros 30 o wledydd i gefnogi mentrau Cynghrair Data Rhyngwladol Covid-19;
  • Gwella'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llunwyr polisi, sy'n eu helpu i ddeall y berthynas rhwng eu darpariaethau gwasanaeth i wella bywydau pobl.

Dywedodd yr Athro Boyle: "Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Abertawe unwaith eto wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines; yr anrhydedd cenedlaethol uchaf ym maes addysg bellach ac uwch yn y DU, ac yn adlewyrchiad cywir o'r ymchwil ragorol gan ein cydweithwyr yn SAIL.

"Mae ennill ail wobr – mewn rowndiau cyflwyno olynol - yn gyflawniad prin a rhyfeddol, sy'n amlygu budd cyhoeddus sylweddol ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf."