Dwy nyrs mewn masgiau, yn cwblhau ffurflen wrth ddesg sefyll i fyny, gyda ffeiliau ymchwil y tu ôl i

Defnyddio dull Cymru gyfan o gyflwyno ymchwil

21 Gorffennaf

Pan fyddwch chi’n wynebu’r realiti o fod â dim ond oriau a diwrnodau i sefydlu a darparu ymchwil iechyd cyhoeddus ar frys, mae cydweithredu'n hanfodol.

Rydym ni wedi dysgu llawer o bethau gan y pandemig byd-eang, gan gynnwys sut y gallwn ni weithio'n well gyda'n gilydd ledled Cymru i ddarparu ymchwil ddiogel ac effeithiol.

Drwy ein dull Cymru'n Un, rydym ni wedi gallu sefydlu a chyflwyno 119 o astudiaethau COVID-19, gan gynnwys 7 treial brechu, gan roi cyfle i tua 60,000 o bobl yng Nghymru gymryd rhan mewn ymchwil.

Mae'r dull hwn yn rhan gyfannol o'n cynlluniau cyflawni ymchwil wrth i ni symud ymlaen.

Cymru'n Un

Yma yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ein cenhadaeth yw hyrwyddo, cefnogi a darparu trosolwg ar y cyd o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau ei bod o'r ansawdd gwyddonol rhyngwladol uchaf, yn berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn gwneud gwahaniaeth i bolisi ac ymarfer mewn ffyrdd sy'n gwella bywydau cleifion, pobl a chymunedau yng Nghymru.

Drwy ein hymateb cenedlaethol, cydweithredol i'r pandemig, rydym ni wedi llwyddo i weithredu a gwella amrywiaeth o ddulliau o ddarparu ymchwil o dan fodel Cymru'n Un. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o ffyrdd effeithlon o weithio ledled ein gwlad i sicrhau bod astudiaethau’n cael eu cyflawni’n gyflym yng Nghymru a’u bod yn cael eu sefydlu a'u darparu yn gyflymach. Mae ein trosolwg cenedlaethol yn golygu bod ansawdd yn parhau i fod yn hollbwysig yn ein gwasanaeth i'n timau ymchwil, i arweinwyr astudiaethau a noddwyr sydd eisiau cyflawni ymchwil yma.

"Roeddem ni wedi arfer cael misoedd i sefydlu astudiaethau ymchwil ond yn sydyn roeddem ni’n wynebu'r posibilrwydd o fod â dim ond diwrnodau i wneud hyn, wrth fodloni'r un rheoliadau llym," meddai Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

"Ar gyfer ymchwil i frechlynnau, gwnaethom ni sefydlu canolfan frechu genedlaethol, cyflwyno Prif Ymchwilydd arweiniol i Gymru, a hefyd sefydlu un safle ar gyfer Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ein model yn golygu y gallwn ni wneud pethau unwaith i Gymru, gan gynnwys contractau safonol cenedlaethol, a helpodd i gyflymu'r broses.

"Rydym yn falch o fod wedi cyflwyno saith astudiaeth brechlynnau, ac mae'r canlyniadau wedi helpu i lywio rhaglen frechu COVID-19 ledled y DU. Rydym hefyd wedi cyflwyno astudiaethau triniaeth COVID-19 allweddol – gan gynnwys PRINCIPLE, RECOVERY a REMAP-CAP – sydd wedi penderfynu pa gyffuriau sy'n effeithiol, ac yn bwysig, pa gyffuriau nad ydynt yn effeithiol."

Gwell gyfle i fanteisio ar ymchwil

Cymerodd tua 60,000 o bobl ran mewn astudiaethau ymchwil COVID-19 yng Nghymru yn ystod y pandemig. Roedd mynediad at gyfleoedd ymchwil yn amrywio o fynychu canolfannau brechu torfol i gymryd meddyginiaeth wrthfeirol gartref.

"Diolch i'n dull cydweithredol Cymru'n Un, mae pobl wedi cael gwell gyfle i fanteisio ar ymchwil lle maen nhw’n byw ac mae hynny'n golygu bod mwy o bobl wedi gallu cymryd rhan mewn ymchwil, sy'n golygu yn y pen draw ein bod ni wedi gallu ateb mwy o gwestiynau drwy ymchwil," dywedodd Dr Williams.

Dysgu o COVID-19

Nid yw ein model Cymru'n Un yn berthnasol i COVID-19 yn unig, mae wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ar draws pob maes ymchwil.

Un o'r astudiaethau cyntaf i'w cyflwyno, nad yw’n gysylltiedig â COVID, gan ddefnyddio'r model yw SYMPLIFY, sy'n gwerthuso prawf newydd canfod aml-ganser yn gynnar a all ganfod dros 50 math o ganser.

Nod yr astudiaeth SYMPLIFY yw dangos sut y byddai modd defnyddio'r prawf i gynyddu cyfraddau canfod canser a symleiddio diagnosis.

Mae treial SYMPLIFY wedi recriwtio 1,164 o gyfranogwyr mewn 19 ysbyty rhanbarthol, ledled pob un o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru, ac wedi’i gydlynu gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, fel y safle i Gymru.

Ein henw da a'n gwasanaethau

Mae ein model Cymru'n Un yn ein galluogi ni i sicrhau bod gennym ni drosolwg o astudiaethau ymchwil ledled Cymru, fel y gallwn ni sicrhau ein bod yn dilyn yr astudiaethau o'r cyfnod sefydlu hyd at eu darparu.

"Mae ein dull rhagweithiol, cenedlaethol yn golygu bod gennym ni fwy o gyfle i gyrraedd targedau recriwtio, ar amser, gyda phroses dynhau’n gyflym i nodi a datrys materion o ran perfformiad astudiaeth. Mae modd gweld hyn o’n hanes ein profiad o gyflwyno astudiaethau yn ystod y pandemig," meddai Dr Williams.

"Oherwydd nifer a maint yr astudiaethau rydym ni wedi'u sefydlu a'u cyflwyno, rydym ni hefyd wedi gallu datblygu sgiliau newydd yn ein timau cyflawni ymchwil profiadol.

"Rydym ni hefyd yn bwriadu datblygu hyn drwy ein Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd, sy'n sicrhau bod ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael yr hyfforddiant a'r gefnogaeth gywir i ddatblygu eu gyrfaoedd – gan greu llwybr proffesiynol clir a chryfhau ein gallu i ddefnyddio'r bobl ymchwil orau pan a ble mae eu hangen."