Bryan Webber yn cymryd rhan mewn treial PEARL

Deintydd sydd wedi ymddeol yn argymell gwersi achub bywyd i ddeintyddion y dyfodol

6 Gorffennaf

Mae deintydd sydd wedi ymddeol yn defnyddio'i brofiad byw o ganser i helpu i addysgu myfyrwyr deintyddol a dangos y rôl hanfodol y mae deintyddion yn ei chwarae wrth sylwi ar arwyddion cynnar o'r clefyd.

Bedair blynedd yn ôl, Bryan Webber oedd y claf cyntaf mewn treial clinigol ar gyfer canser y pen a'r gwddf yng Nghanolfan Ganser Felindre, gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  Cynorthwyodd y treial adferiad Bryan ac mae ei gyfranogiad hefyd wedi dangos rôl hanfodol ymchwil wrth ddatblygu triniaethau meddygol.

Treuliodd Bryan 50 mlynedd yn y GIG, gyda'r 30 olaf mewn rôl hyfforddi, yn eiriol dros ganfod canser yn gynnar gan ddeintyddion.  Dechreuodd ei brofiad personol pan sylwodd ar donsil llidus ym mis Rhagfyr 2019.

Cafodd ddiagnosis o garsinoma HPV 16 o'r tonsil, ac ymunodd â'r Treial Clinigol Radiotherapi Addasol PET (PEARL), sy'n defnyddio sganiau PET-CT i wella cywirdeb radiotherapi a lleihau sgil-effeithiau.

Yn ystod ei driniaeth, rhannodd Bryan ei daith ar Facebook, gan ddal diddordeb ei gydweithwyr deintyddol, ac arweiniodd hynny at nifer o wahoddiadau i siarad â myfyrwyr deintyddol a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru a thu hwnt.

Cofiodd Bryan:  "Pan ddechreuais driniaeth ar gyfer fy nghanser, penderfynais bostio rhai lluniau ar Facebook i ddangos i fy ffrindiau beth oedd yn digwydd i fi. Postiais luniau o fy ngheg a fy nhaflod, yr wlserau a ddatblygodd, fy sganiau MRI a PET, popeth! 

Mae Bryan yn credu ym mhwysigrwydd cleifion yn ystyried cymryd rhan mewn treial clinigol. Dywedodd: "Hebddyn nhw, fydden ni ddim yn cael cyffuriau newydd, triniaethau newydd.

"Drwy gymryd rhan yn y treial PEARL, rwyf wedi chwarae fy rhan i gael triniaeth well i bobl sydd â chanser y pen a'r gwddf."

Er gwaethaf sgil-effeithiau parhaus ei ganser, fel anhawster llyncu a newid llais, mae Bryan yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w genhadaeth.

Mae Bryan bellach yn gwasanaethu fel cynrychiolydd cleifion ar Uwch Grŵp Arwain Felindre ac is-bwyllgor Datblygu Ymchwil ac Arloesi, gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion yn dylanwadu'n barhaus ar ymchwil.

Roedd stori Bryan i'w gweld ar ITV Wales at Six.

Darganfyddwch fwy am y treial PEARL.

Cofrestrwch i ymuno â Be Part of Research i ddysgu am yr amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol neu gymorth yn eich ardal.