Derbynioldeb cleifion ac effeithiolrwydd clinigol profion Raman / FIT cyfunol ar gyfer diagnosis canser y colon a'r rhefr mewn gofal sylfaenol (sef astudiaeth CRaFT)

Crynodeb diwedd y prosiect

Mae'n anodd canfod canser y colon a'r rhefr (neu’r coluddyn) mewn gofal sylfaenol gan nad yw ei symptomau'n benodol (e.e. gwaedu rhefrol, arfer y coluddyn wedi'i newid). Mae angen atgyfeirio llawer o gleifion sydd â'r symptomau hyn ar gyfer colonosgopi er mwyn diystyru canser, ac eto mae'r rhan fwyaf o golonosgopïau'n normal. Mae yna’r angen am brofion syml mewn gofal sylfaenol i helpu i flaenoriaethu profion. 

Recriwtiodd astudiaeth CRaFT bron i 800 o gleifion â symptomau sy'n awgrymu canser y coluddyn, i gael prawf gwaed newydd (prawf Raman) a phrawf ysgarthol am waed yn y carthion (sef prawf FIT). Cynigiwyd y paru prawf fel dull i feddygon teulu asesu risg eu cleifion am y tebygolrwydd o ganser y coluddyn. Cafodd cleifion a meddygon mewn gofal sylfaenol ac mewn meddygaeth ysbyty eu cyfweld i ofyn eu profiad gyda'r profion a sut y gellid defnyddio'r profion yn ymarferol.  

  • Roedd y prawf Raman / FIT yn dderbyniol fel dewis arall yn lle colonosgopi mewn 91% o gleifion a gyfwelwyd. 
  • Dywedodd cleifion fod y prawf Raman-FIT yn gyflymach i gael mynediad ato, yn llai ymwthiol, yn llai poenus ac yn fwy cyfleus o'i gymharu â phrofion diagnostig eraill fel colonosgopi, heb yr angen am amser i ffwrdd o'r gwaith na pharatoi'r coluddyn. 
  • Dywedodd cleifion y byddai'r cyflymder y gellir gwneud y prawf Raman-FIT o fudd i'w lles corfforol a seicolegol.  
  • Dywedodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y byddent yn hyderus gyda Raman-FIT fel prawf cychwynnol ac na fyddent yn atgyfeirio cleifion negyddol Raman-FIT ar unwaith pe bai amheuaeth glinigol isel o ganser. 
  • Byddai'r prawf gwaed yn unig yn cynyddu mynediad at brofion cychwynnol mewn cleifion, na fyddent fel arall yn ymgysylltu neu'n cyflwyno ac roedd yn bwysig ar gyfer symptomau gwaedu rhefrol ac anemia diffyg haearn. 
     

Byddai cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn croesawu mynediad at brawf cyflymach, llai ymwthiol er mwyn sgrinio ar gyfer canser y colon a'r rhefr mewn gofal sylfaenol, ac roedd hwn yn opsiwn da ar gyfer diystyru canser y colon mewn gofal sylfaenol. 

Y goblygiadau yw y byddai mabwysiadu'r prawf Raman-FIT mewn gofal sylfaenol yn helpu lles cleifion, gallai gynyddu cyflwyniad cynharach grwpiau cleifion llai ymgysylltiedig i gynyddu canfod canser, a byddai'n helpu i flaenoriaethu'r galw am golonosgopi mewn gofal eilaidd.

Wedi'i gwblhau
Research lead
Professor Dean Harris
Swm
£228,129
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2018
Dyddiad cau
30 Mai 2022
Gwobr
Research for Patient and Public Benefit (RfPPB) Wales
Cyfeirnod y Prosiect
RfPPB-17-1458
UKCRC Research Activity
Health and social care services research
Research activity sub-code
Organisation and delivery of services