Grŵp o chwech o bobl yn posio i gael camera yng Ngwobrau MediWales.

Dewch i ddathlu eich cyflawniadau - gwnewch gais nawr ar gyfer Gwobrau Arloesedd MediWales

5 Hydref

*Mae ceisiadau ar gau nawr*

Gwnewch gais nawr am gyfle i ennill Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yn yr 17eg Gwobrau Arloesedd MediWales blynyddol ar 8 Rhagfyr 2022.

Mae’r wobr hon ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, clinigwyr, neu fyrddau iechyd o Gymru sydd wedi partneru â diwydiant i gyflenwi prosiect neu ddatblygu cydweithrediad â ffocws penodol ar ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol. Dylai prosiectau gael effaith gadarnhaol ar iechyd, llesiant a ffyniant pobl Cymru.

Nawr yn fwy nag erioed, mae'n bwysig dathlu llwyddiannau mewn diwydiant, technoleg iechyd a gofal iechyd. Mae Gwobrau Arloesedd MediWales yn dod â diwydiant, academyddion a’r gymuned glinigol ynghyd i greu cyfleoedd newydd a dathlu'r cyflawniadau diweddaraf.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o wobrau ar draws sectorau diwydiant ac iechyd:

Categorïau gwobrau diwydiant 2022:

  • Arloesedd
  • Cychwyn busnes
  • Partneriaeth gyda'r GIG
  • Allforio
  • Cyflawniadau rhagorol

Categorïau gwobrau iechyd 2022:

  • Gwobrau partneriaeth ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gyda diwydiant GIG Cymru yn gweithio gyda diwydiant
  • Technoleg ac effaith ddigidol
  • Cynyddu arloesedd a thrawsnewid
  • Gofal cymdeithasol

Enillwyr Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant y llynedd oedd Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bond Digital Health (BDH) am eu ap ffôn clyfar, sy’n galluogi cleifion i reoli eu clefyd yr ysgyfaint rhwystrol cronig (COPD).

Derbyniodd yr Athro Keir Lewis, Arweinydd Anadlol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y wobr. Dywedodd Keir: “

Mae’n anrhydedd derbyn y wobr hon ar ran y bartneriaeth. Trwy’r ap Pal COPD, roeddem eisiau rhoi mwy o reolaeth i gleifion dros eu cyflwr ac rydym yn falch bod 89% ohonynt wedi dweud y byddent yn defnyddio’r ap yn rheolaidd.”

I gymryd rhan mewn categori gwobr a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru anfonwch e-bost at Ella James yn Mediwales a gofyn am ffurflen gais Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant. Gallwch hefyd gysylltu ag Ella i gael gwybodaeth am sut i wneud cais am unrhyw un o'r gwobrau eraill.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Hydref 2022.