Dewch i ddathlu eich gwaith – gwnewch gais nawr am Wobrau Arloesedd MediWales
26 Medi
*Mae'r gwobrau hyn bellach ar gau*
Gwnewch gais nawr i gael cyfle i ennill y Wobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Diwydiant fel rhan o Wobrau Arloesedd MediWales blynyddol sy’n cael eu cynnal am y pymthegfed tro ar 2 Rhagfyr 2020. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o fod yn un o bartneriaid gwobrau MediWales ar gyfer y wobr hon.
Mae’r wobr hon ar gyfer unrhyw un sydd wedi creu partneriaeth â diwydiant i gyflawni prosiect neu raglen gydweithredol gyda phwyslais penodol ar ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol. Dylai’r prosiectau fod wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd, llesiant a ffyniant y Cymry.
Ochr yn ochr â’r wobr hon, mae nifer o wobrau yn y categorïau diwydiant a’r GIG, sy’n rhoi platfform i arddangos cyflawniadau eithriadol yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, gan gynnwys:
Gwobrau yn y categori diwydiant
- Arloesi
- Dechrau busnes
- Partneriaeth â’r GIG
- Allforio
- Cyflawniad eithriadol
- Ymateb i COVID-19
Gwobrau yng nghategori’r GIG
- Gwobr partneriaeth ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol mewn diwydiant
- Effaith ddigidol
- Arloesi a thrawsnewid ar raddfa fawr
- GIG Cymru yn gweithio mewn diwydiant
Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn arddangos cyflawniadau cymuned MediWales. Ceir 11 o wobrau yn y categori diwydiant a’r GIG, ac mae’r gwobrau yn blatfform i arddangos cyflawniadau eithriadol y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Meddai’r Athro Kieran Walshe, cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Er mwyn cydnabod y gwaith ymchwil rhagorol a wneir yn ddyddiol i wella bywydau cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o fod yn un o bartneriaid y gwobrau ar gyfer y ‘wobr partneriaeth ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol mewn diwydiant’.
“Rydym yn annog pawb yn y GIG sy’n gwneud gwaith ymchwil mewn iechyd a gofal cymdeithasol i wneud cais ac edrychwn ymlaen at dderbyn llawer o geisiadau eithriadol.”
I wneud cais am y Wobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Diwydiant anfonwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau at Isabelle Ford. Gallwch hefyd gysylltu ag Isabelle i gael gwybod sut i wneud cais am unrhyw un o’r gwobrau eraill. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Hydref 2020.
Entry form and email address not working