gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Dewiswch y blaenoriaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru

27 Mehefin

*Mae'r arolwg hwn bellach ar gau*

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi datblygu ail arolwg ar y cyd am wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth i deuluoedd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, mewn cydweithrediad â Chynghrair James Lind. Bydd yr arolygon yn helpu i lywio ein blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gofal a chymorth i deuluoedd a phlant, ac yn gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae sylwadau o'r arolwg cyntaf wedi'u troi'n gwestiynau y gellid eu hateb drwy ymchwil ac mae angen eich help arnom i ddewis pa rai sydd bwysicaf. Mae profiadau a safbwyntiau bywyd go iawn teuluoedd ac ymarferwyr gofal cymdeithasol yn hanfodol a dyna pam mae angen i ni glywed gennych.

Cymerwch ran a gwnewch wahaniaeth

Mae croeso i chi gymryd rhan yn yr arolwg hwn os ydych wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth i deuluoedd; neu os ydych yn ymarferydd gofal cymdeithasol wedi eich cyflogi i roi gwasanaethau cefnogi teuluoedd yng Nghymru

Rydym am sicrhau bod ystod eang o leisiau yn cael cyfle i gael eu clywed, a dysgu mwy am eich profiadau, eich barn a'ch pryderon mwyaf.  Anogwch eich teulu, ffrindiau  a'ch swyddogion cyswllt gwaith i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.

Bydd yr arolwg yn cau ar 30 Mehefin.

Gweithredwch nawr i wneud gwahaniaeth!