“Diogel-De”: Atal sgaldiadau diodydd poeth ymysg plant ifanc
Bob blwyddyn, mae tua 40,000 o blant yn mynd i’r adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru a Lloegr â llosgiadau neu sgaldiadau er bod tystiolaeth gynyddol bod posibl atal y rhan fwyaf o’r llosgiadau.
Mae plant sy’n byw mewn ardaloedd sy’n gymdeithasol ac economaidd difreintiedig yn wynebu risg uwch na’r cyffredin o gael llosgiadau a fydd yn newid eu bywyd. Pan nad yw rhieni’n gwybod am gymorth cyntaf ar gyfer llosg, mae’r llosg yn dod yn fwy difrifol fyth.
Ym mis Awst 2016, fe lansiodd y Ganolfan Ymchwil i Losgiadau Plant ym Mhrifysgol Caerdydd ‘Diogel-De’ (‘Safe-Tea’), sef ymgyrch ymyrraeth yn targedu rhieni plant cyn ysgol sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd.
Fel rhan o’r ymgyrch, bu ymchwilwyr yn cydweithio â Dechrau’n Deg yng Nghaerdydd, sef sefydliad y mae Llywodraeth Cymru’n ei ariannu sy’n rhoi cymorth i rieni a phlant ym mlynyddoedd ffurfiannol eu datblygiad. Mae Dr Verity Bennett, cydymaith ymchwil i’r Ganolfan Ymchwil i Losgiadau Plant ym Mhrifysgol Caerdydd, yn esbonio:
“Ar ôl cynnwys y cyhoedd, cyngor clinigol arbenigol a mewnbwn gan staff Dechrau’n Deg, fe wnaethon ni ddatblygu deunyddiau amrywiol amlgyfrwng. Yn eu plith roedd posteri ‘siartiau-cyrraedd’ plant, magnetau i’r oergell, a fideos byr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
“Hyfforddwyd staff Dechrau’n Deg mewn epidemioleg sgaldiadau diodydd poeth, sut i’w hatal a chymorth cyntaf. Bu’r staff hyn yn cyflwyno’r negeseuon ‘Diogel-De’ yn ystod ymweliadau iechyd 6-mis, mewn lleoliadau lle cynhelir grwpiau chwarae a gofal plant.”
Darganfyddiadau mwyaf arwyddocaol y sesiynau ymyrraeth
Defnyddiwyd holiadur a roddwyd i rieni cyn ac ar ôl yr ymyrraeth i fesur newidiadau yng ngwybodaeth rhieni am beryglon diodydd poeth a chymorth cyntaf ar gyfer llosgiadau. Ymchwiliwyd i ba mor dderbyniol ac ymarferol oedd yr ymyrraeth i rieni a staff Dechrau’n Deg trwy gynnal trafodaethau grwpiau ffocws.
Ar ôl yr ymyrraeth, roedd rhieni’n gwybod mwy am y risgiau a’r peryglon o sgaldiadau diodydd poeth a chryn dipyn yn fwy am gymorth cyntaf i drin llosgiadau. Ar ôl y profiad, roedd ganddyn nhw fwy o hyder i gywiro ymddygiad pobl eraill ac i rannu’r negeseuon cymorth cyntaf â’r teulu yn y DU a thu hwnt. Ar y cyfan, roedd staff Dechrau’n Deg a’r rhieni’n teimlo bod yr ymyrraeth yn dderbyniol ac yn ymarferol gan roi adborth defnyddiol am welliannau a fyddai’n gwella’r ymyrraeth ymhellach.
Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhifyn 3, Tachwedd 2017