Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn diolch i gymuned ymchwil y GIG am eu hymroddiad a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud
23 Gorffennaf
I nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r gwasanaeth iechyd, mae'r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi diolch i gymuned ymchwil y GIG am y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i wella gwasanaethau a thriniaethau i gleifion ledled y wlad.
Dywedodd yr Athro Walshe fod y dathliad yn 'gyfle gwych' nid yn unig i edrych yn ôl ar hanes datblygiadau meddygol sydd wedi'u gyrru gan ymchwil, ond hefyd i'r dyfodol, a'r rôl hanfodol y mae ymchwil yn ei chwarae wrth yrru gwellianau ymlaen.
Dywedodd: "Mae ymchwil yn hanfodol bwysig i'r GIG, a gwelsom hynny'n glir iawn yn ystod pandemig COVID-19, pan ddaeth ymchwil o hyd i ffyrdd o drin cleifion oedd â covid, ac yn bwysig fe ddatblygodd y brechlynnau a helpodd ni i ddod o hyd i'n ffordd allan o'r argyfwng hwnnw.
"Ar hyn o bryd rydym yn wynebu pwysau enfawr yn y GIG, ac mae ymchwil unwaith eto yn ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wella gwasanaethau a gwella'r ffordd yr ydym yn trin cleifion i ddod o hyd i'n ffordd trwy bethau fel yr ôl-groniad llawfeddygol."
Yn gynharach eleni, lansiodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynllun tair blynedd newydd yr ydym yn ceisio ei gyflawni gyda'n partneriaid yn y GIG, gofal cymdeithasol, addysg uwch ac mewn diwydiant, gyda chyllid blynyddol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Mae ein sefydliad yn cefnogi Strategaeth Ymchwil Canser Cymru, ac wedi creu canolfan ymchwil newydd ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yn ogystal ag ariannu Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n bodoli i ddarparu synthesis tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau gan uwch glinigwyr ac arweinwyr ar draws y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn ogystal, rydym yn gweithio i wella ein cydweithrediad â phartneriaid yn y diwydiant, ac wedi sefydlu Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd i gefnogi unigolion sy'n ymwneud ag ymchwil, boed hynny yn y GIG, addysg uwch neu ofal cymdeithasol, fel eu bod yn dod yn arweinwyr ymchwil yfory yn y dyfodol.
Ychwanegodd yr Athro Walshe:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn bodoli i weld ymchwil gwych yn cael ei wneud sy'n gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth wyddonol, ac sydd yn y pen draw yn arwain at welliannau i wasanaethau i gleifion a chymunedau yng Nghymru."