Diolch yn fawr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
23 Rhagfyr
“Ble fyddem ni heb ymchwil? Mae'n amser da i gymryd saib a meddwl am y cynnydd anhygoel sydd wedi'i wneud wrth fynd i’r afael â'r pandemig wrth i ni ddod i ddiwedd blwyddyn heriol arall.
“A ble fyddem ni heb y bobl sy'n gwneud i ymchwil ddigwydd? Sef yr ymchwilwyr, gweithwyr clinigol proffesiynol, staff cymorth ymchwil a chyflenwi, a llawer o bobl eraill ynghyd ag aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cymryd rhan mewn astudiaethau neu'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud â helpu i lunio'r cwestiynau ymchwil.
“Beth bynnag yw eich swydd, gallwn ni i gyd fod yn falch o'r gwahaniaeth y mae ein hymdrechion ymchwil wedi'i wneud yn 2021. Mae Cymru wedi parhau i chwarae rhan hanfodol mewn astudiaethau ledled y DU a rhyngwladol i helpu i fynd i'r afael â phandemig COVID-19 – o frechlynnau i driniaethau.
“Mae ein cyllid ar gyfer ymchwil sy'n achub bywydau wedi parhau mewn meysydd eraill hefyd, gyda buddsoddiadau allweddol eleni mewn prosiectau sy'n ymchwilio i bynciau sy’n cynnwys canser a dementia a gofal cymdeithasol.
“Wrth i ni wynebu 2022 gyda'n gilydd, gadewch i ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd gennym i barhau i gael effaith ar fywydau pobl drwy'r ymchwil a wnawn bob dydd.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyd unwaith eto yn y flwyddyn newydd ond am y tro hoffem ddweud diolch yn fawr wrth bob un ohonoch."
Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru