Tri myfyriwr ar gampws prifysgol

Diweddariad ar ymchwil myfyrwyr – meini prawf cymhwysedd newydd o 1 Medi 2021 ymlaen

24 Mawrth

Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd a’r gweinyddiaethau datganoledig, gyda chymorth Wessex Institute ym Mhrifysgol Southampton, wedi adolygu eu dull o gymeradwyo astudiaethau ar gyfer ymchwil myfyrwyr.

Nod yr adolygiad oedd sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad dysgu gorau o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, a lleihau’r amser y mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, y gweinyddiaethau datganoledig a Phwyllgorau Moeseg Ymchwil (REC) y GIG yn ei dreulio yn cynghori ar geisiadau myfyrwyr a’u hadolygu.

Ym mis Mawrth 2020 fe wnaethom ni atal cymeradwyaeth ymchwil myfyrwyr i greu capasiti ar gyfer ymchwil brys COVID-19. Nawr, o 1 Medi 2021 ymlaen, rydym yn cyflwyno meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer ymchwil annibynnol myfyrwyr.

Mae’r meini prawf newydd yn golygu y bydd rhai myfyrwyr ar lefel gradd Feistr yn cael gwneud cais am adolygiad moeseg a Chymeradwyaeth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu’r hyn sy’n gyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig. Nid yw ymchwil sy’n sefyll ar ei phen ei hun ar lefel israddedig ac sy’n galw am adolygiad moeseg a/ neu Gymeradwyaeth HRA/ Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (neu sefydliad cyfatebol gweinyddiaeth ddatganoledig) yn gallu mynd rhagddi. Nid oes unrhyw newid i drefniadau ymchwil doethurol.

Mae manylion llawn ar gael yn nhabl un – tabl cymhwysedd ar gyfer ymchwil myfyrwyr. Rydym hefyd wedi egluro pryd y caiff myfyrwyr gyflawni swyddogaeth Prif Ymchwilydd, gweler tabl dau – pa fath o fyfyrwyr gaiff gyflawni swyddogaeth Prif Ymchwilydd?

Mae’n bosibl i fyfyrwyr ddysgu am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol heb gyflawni prosiectau annibynnol. Mae ystyried ffyrdd eraill o feithrin sgiliau a phrofiad yn well adlewyrchiad o ymchwil fodern ac yn pwysleisio gwyddor tîm. Gwyliwch y fideo o’n digwyddiad ‘Exploring good practice in Student Research’ i glywed gan arweinyddion cyrsiau ynglŷn â llwyddiant y dulliau amgen hyn (mae’n ofynnol i gofrestru i gael gwylio) neu darllenwch gwefan Awdurdod Ymchwil Iechyd i gael rhagor o wybodaeth a syniadau.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r meini prawf cymhwysedd, cysylltwch â queries@hra.nhs.uk.

 

Rhestr 1: Ymchwil gan fyfyrwyr a ganiateir

Mae’r tabl hwn yn dangos y math o brosiectau ymchwil unigol y bydd myfyrwyr yn gallu eu gwneud o fis Medi 2021. Mae ymchwil unigol yn golygu ymchwil lle mae’r myfyriwr yn dylunio’r astudiaeth, yn ei chyflwyno i’w chymeradwyo ac yn cynnal y prosiect ar ei ben ei hun gyda goruwchwyliaeth. Gwiriwch pa fath o ymchwil sydd angen y gwahanol fathau o adolygiad.

Israddedig neu gyfwerth

Math o Adolygiad:

  • Nad yw yn REC* - na
  • Adolygiad REC cymesur – na
  • Adolygiad REC llawn - na

Myfyrwyr Gradd Feistr (neu gyfwerth) ar gyrsiau nad ydynt yn rhai iechyd a gofal neu mewn adrannau prifysgol nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil iechyd a gofal

Math o Adolygiad:

  • Nad yw yn REC* - na
  • Adolygiad REC cymesur - na
  • Adolygiad REC llawn - na

Myfyrwyr Gradd Feistr (neu gyfwerth) ar gyrsiau iechyd a gofal mewn adrannau prifysgol sy’n ymwneud ag ymchwil iechyd a gofal

Math o Adolygiad:

  • Nad yw yn REC* - oes
  • Adolygiad REC cymesur - dim ond os nad oes dewis arall addas i gael profiad addysgol
  • Adolygiad REC llawn - na

Gweithwyr proffesiynol neu hyfforddeion ym maes iechyd a gofal ar gyrsiau mewn adrannau prifysgol sy’n ymwneud ag ymchwil iechyd a gofal

Math o Adolygiad:

  • Nad yw yn REC* - oes
  • Adolygiad REC cymesur - oes
  • Adolygiad REC llawn - oes

Lefel doethuriaeth/ PhD

Math o Adolygiad:

  • Nad yw yn REC* - oes
  • Adolygiad REC cymesur - oes
  • Adolygiad REC llawn - oes

*Nid yw adolygiad moesegol yn ofynnol o dan delerau Trefniadau Llywodraethu ar gyfer Pwyllgorau Moeseg Ymchwil (GAfREC). Mae ymchwil yn cynnwys y GIG/Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac felly yn dod o fewn cwmpas Cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu’r hyn sy’n gyfatebol yn y Gweinyddiaethau Datganoledig.

Rhestr 2: Pa fath o fyfyrwyr gaiff weithredu fel Prif Ymchwilydd

Israddedig neu gyfwerth

  • Gweithredu fel Prif Ymchwilydd - na chaiff

Gradd Feistr (neu gyfwerth)

  • Gweithredu fel Prif Ymchwilydd - na chaiff

Lefel doethuriaeth

  • Gweithredu fel Prif Ymchwilydd - caiff