Diwrnod cefnogi a chyflenwi 2021 – yr hyn a ddysgwyd am ENRICH Cymru
Roedd Diwrnod Cefnogi a Chyflenwi eleni, sef Edrych i’r Dyfodol Gyda’n Gilydd, yn edrych ar amrywiaeth o gyflawniadau a heriau ymchwil dros y flwyddyn ddiwethaf yma.
Ymhlith y siaradwyr a oedd yn edrych ar ymateb Cymru i’r treialon brechlynnau, cymeradwyaethau rheoleiddwyr a chyllid, gwnaeth Stephanie Green, Cydlynydd rhwydwaith cartrefi gofal ENRICH Cymru, roi trosolwg o’r gefnogaeth sydd ar gael i alluogi ymchwil mewn cartrefi gofal.
Mae rhwydwaith Galluogi Ymchwil Mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) Cymru yn fenter ar y cyd â CADR, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyda chefnogaeth oddi wrth Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Os wnaethoch chi fethu’r sesiwn, gallwch chi wylio recordiad o’r drafodaeth yma, neu gallwch chi ddarllen trwy ein huchafbwyntiau.
- Mae cartrefi gofal wedi symud i fyny ar yr agenda wleidyddol
Mae’r pandemig wedi dwyn sylw at y gwahaniaethau yn y sector iechyd a’r sector gofal ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn yr ymateb i ymchwil.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ENRICH Cymru wedi helpu i siarad o blaid cartrefi gofal yn ystod eu hamser caletaf trwy lobïo ac ymgyrchu dros gynnwys cynrychiolwyr a chyflwyno cyfleoedd i helpu ag ymchwil COVID-19.
Mae yna waith nawr i’w wneud i frwydro i sicrhau y clywir llais cartrefi gofal yn yr holl ymchwil iechyd a gofal trwy roi lle amlwg i’w werth a’i effaith ar wella bywydau’r rheini sydd mewn cartrefi gofal.
- Mae ymchwil i bawb
Sefydlwyd ENRICH Cymru yn 2018 a chrëwyd ef i gefnogi a hwyluso twf ymchwil sy’n newid bywydau mewn cartrefi gofal ledled Cymru.
Un o’i nodau allweddol oedd ailbecynnu ymchwil yn y sector gofal trwy ddangos nad rhywbeth i gotiau gwyn mewn prifysgolion yn unig yw ymchwil ond ei bod i bawb, gan gynnwys ymarferwyr gofal sy’n gweithio yn y maes o ddydd i ddydd.
- Mae cydgynhyrchu’n allweddol
Mae astudiaethau’n dangos bod perthnasoedd tymor hir â chartrefi gofal yn sicrhau bod y cwestiynau a’r materion mwyaf perthnasol yn y gymuned cartrefi gofal yn cael sylw.
Y rheini yn y gymuned cartrefi gofal yw’r arbenigwyr a dylid rhoi cyfleoedd iddyn nhw rannu eu barn ar y pethau pwysicaf, er mwyn llunio polisi cartrefi gofal ar lefel genedlaethol a lleol.
Mae grŵp Cynghori ENRICH Cymru, a sefydlwyd ar yr un pryd â’r rhwydwaith, yn dwyn cymysgedd o gynrychiolwyr at ei gilydd, gan gynnwys rheolwyr cartrefi gofal, academyddion, ymarferwyr cartrefi gofal ac aelodau’r cyhoedd a fydd yn helpu i gefnogi a llywio’r gwaith yn y dyfodol.
- Mae ymchwil eisoes yn mynd rhagddi mewn cartrefi gofal....
Mae yna lawer o astudiaethau y mae’r rhwydwaith yn eu cefnogi, gan gynnwys:
PRINCIPLE – astudiaeth ledled y DU i ddod o hyd i driniaethau ar gyfer COVID-19 gartref. Mae’r astudiaeth nawr ar agor i’r rheini sydd ddim yn gallu cydsynio cystal drostyn nhw eu hunain a, gan fod preswylwyr cartrefi gofal yn un o’r grwpiau â’r risg uchaf o ddal COVID-19, mae’n bwysig bod profiadau cartrefi gofal yn cael eu cynnwys er mwyn darparu canlyniadau gwell.
PROTECT – treial platfform a fydd yn rhoi un triniaeth neu fwy ar brawf, â’r nod o leihau’r risg o breswylwyr cartrefi gofal yn dal y feirws sy’n achosi COVID-19 ac yn datblygu problemau iechyd difrifol.
Trwy ENRICH Cymru, mae’r cyfleoedd hyn wedi’u cyflwyno i’r rhwydwaith er mwyn iddyn nhw allu cymryd rhan a hefyd er mwyn iddyn nhw allu cael eu cynnwys mewn creu a datblygu astudiaethau.
- Mae twf ar y gorwel
Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r rhwydwaith wedi recriwtio 22 o gartrefi gofal ledled Cymru ac wedi cefnogi gwaith cyflenwi a hwyluso 15 o astudiaethau ymchwil. Yn 2020, dyfarnwyd cyllid i ENRICH Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, â’r nod allweddol o gynyddu gwaith hwyluso cyflenwi a datblygu ymchwil mewn cartrefi gofal trwy ehangu’r rhwydwaith ledled Cymru.
Gyda gweledigaeth newydd ffres ar gyfer 2021, mae ENRICH Cymru wedi cynyddu ei dîm trwy groesawu dau hwylusydd ymchwil newydd. Bydd y tîm newydd yn helpu i ddatblygu’r rhwydwaith, gan annog cyfnewid syniadau a meithrin gwaith cydgynhyrchu ymchwil trwy ddwyn ymchwilwyr at ei gilydd gyda staff, preswylwyr a theuluoedd cartrefi gofal.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch ENRICH Cymru yn y cyfryngau cymdeithasol neu anfonwch e-bost at Stephanie Green.