Diwrnod nyrsio ymchwil glinigol
Mae’n bleser gan is-bwyllgor Cymdeithas Ymchwil y Coleg Nyrsio Brenhinol: Nyrsio Ymchwil Glinigol gyhoeddi ei Ddiwrnod Nyrsio Ymchwil Glinigol Agoriadol, ‘Dathlu nyrsio ymchwil glinigol a’i rôl hanfodol mewn gofal iechyd’.
Mae’r gynhadledd rithwir hon ar gyfer pob nyrs a bydwraig ymchwil o ledled y DU, ac unrhyw nyrs sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes ymchwil.
Caiff y digwyddiad ei westeio ar Hopin, sef platfform rhithiol o’r radd flaenaf sy’n cynnig popeth mewn un lle ac sy’n galluogi profiad hynod ryngweithiol a deniadol i fynychwyr.
Rhaglen fyw
- Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ac ymchwil glinigol
- Ymchwil fel Ffordd i Fesur Gofal Iechyd: o safbwynt claf
- Sesiynau mewn grwpiau
- Sut yr ymatebodd timau ymchwil i bandemig COVID-19
- Gwreiddio a lledaenu ymchwil yn y GIG
- Trafodaeth panel – Ydy hi’n bosibl gwreiddio ymchwil go iawn mewn GIG sydd dan bwysau?
Aelod o’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) - £96.00
Y rheini nad ydyn nhw’n aelodau - £144.00
Aelod: Myfyriwr cyn-gofrestredig, wedi ymddeol, ymarferydd iechyd £57.60
Aelod: Cynrychiolwyr RCN, pwyllgor llywio fforwm - £72.00
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan y Coleg Nyrsio Brenhinol.