Research midwives Joelle Morgan (left) Sharon Jones (right)

Diwrnod ym mywyd bydwraig ymchwil

3 Mai

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig (5 Mai) hoffem eich cyflwyno i un o fydwragedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n gwneud ymchwil ar lawr gwlad. 

Dyma Sharon Jones, Bydwraig Ymchwil Arweiniol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac aelod o staff cyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Fel bydwraig ymchwil, mae ei threfn ddyddiol yn llawn gweithgaredd sy'n hanfodol i wella gwasanaethau mamolaeth i bobl yng Nghymru. 

Meithrin ymddiriedaeth a chanfod cyfranogwyr posibl 

Mae boreau Sharon yn aml yn cynnwys ymweld ag ardaloedd clinigol. Mae hyn nid yn unig yn caniatáu iddi gynnal perthnasoedd cryf â chydweithwyr ond mae hefyd yn helpu i ganfod cyfranogwyr posibl ar gyfer prosiectau ymchwil parhaus.  

Recriwtio i astudiaethau 

Er bod rhai dyddiau'n dilyn trefn arferol, mae angen dull ymatebol bob amser i alluogi Sharon i ymgysylltu â darpar gyfranogwyr neu staff clinigol a recriwtio menywod neu fabanod i mewn i wahanol astudiaethau. Gallai galwad ffôn gan glinig roi gwybod am fam newydd a allai fod yn berffaith ar gyfer astudiaeth benodol. Mae Sharon yn rhagori ar esbonio'r broses ymchwil a'r hyn y byddai ei angen ar rywun sy'n cymryd rhan yn un o'r astudiaethau y mae'n gweithio arnynt. 

Data, sefydlu astudiaeth a mwy 

Yn ôl yn y swyddfa, mae Sharon yn jyglo amrywiaeth o dasgau. O oruchwylio'r broses o gasglu data i sicrhau diogelwch a lles cyfranogwyr yr astudiaeth, sydd bob amser yn brif flaenoriaeth iddi. Mae hi hefyd yn gweithio'n agos gyda'i chydweithwyr i sefydlu astudiaethau newydd, proses sy'n mynnu cynllunio a chydlynu gofalus. 

Astudiaeth ddiweddaraf Sharon  

Mae Sharon a'i thîm wedi cwblhau astudiaeth bwydo-ABA ledled y DU yn ddiweddar. Mae bron i 200 o famau am y tro cyntaf wedi gwirfoddoli ar gyfer yr astudiaeth hon sy’n ystyried a yw cymorth ychwanegol yn eu helpu i fwydo eu babanod mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw. 

Dywedodd Sharon:  

“Mae'r astudiaeth bwydo-ABA wedi ymgysylltu'n dda iawn gyda’r mamau, ac adlewyrchwyd hyn yn y niferoedd â gafodd eu recriwtio. 

“Cawsom hefyd ymgysylltiad gwych â'n cefnogwyr cymheiriaid bwydo babanod a wirfoddolodd i gynnal hyfforddiant penodol i'w galluogi i helpu'r mamau newydd ar  eu taith bwydo ar y fron.”  

Lledaenu'r wybodaeth 

Mae ymroddiad Sharon yn ymestyn y tu hwnt i gwblhau astudiaeth. Mae hi'n credu bod ymchwil yn hanfodol ar gyfer cynnydd mewn gofal mamolaeth nid yn unig yng Nghymru ac yn y DU ond ledled y byd hefyd. Mae hi'n gweld effaith gadarnhaol yr astudiaethau hyn ar ymarfer clinigol bob dydd.   

"Dydy fy ngwaith ddim wedi gorffen pan ddaw'r astudiaeth i ben.  

Mae hefyd yn bwysig iawn i mi sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu rhannu gyda'n cydweithwyr." 

“Mae gweld bydwragedd ar draws y byd yn newid eu harferion a sut maen nhw'n gofalu am famau a babanod yn sail i bwysigrwydd ymchwil. 

Mae bydwreigiaeth ymchwil, fel mae Sharon yn ei ddangos, yn ymdrech gydweithredol ac mae'n sicrhau bod pob cyfranogwr yn teimlo ei fod yn cael ei barchu a'i werthfawrogi. 

Parhaodd Sharon: 

“Mae'n ymdrech tîm ac mae pawb sy'n cyfranogi yn rhan hanfodol o hynny." 

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael y newyddion diweddaraf o fyd ymchwil, cyfleoedd ariannu a gwybodaeth ddefnyddiol arall.